Neidio i'r cynnwys

Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill

Oddi ar Wicipedia
Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill
Clawr argraffiad Melin Bapur (2025)
AwdurH. P. Lovecraft
CyhoeddwrMelin Bapur (2025)
GwladUDA
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi2025 Edit this on Wikidata
PwncStraeon Arswyd
ArgaeleddMewn print
Dynodwyr

Cyfrol o straeon byrion gan yr awdur Americanaidd H. P. Lovecraft (1890-1937) wedi'u cyfieithu gan Peredur Glyn yw Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill a gyhoeddwyd gan Melin Bapur yn 2025 fel rhan o'u cyfres Clasuron Byd.[1] Mae'r straeon yn cynnwys rhai o'r enwocaf ym Mythos Cthulhu, sef bydysawd dychmygol arswydus Lovecraft.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn cynnwys pum stori gan Lovecraft. Detholiad newydd yw hwn gan y cyfieithydd, nad yw'n adlewyrchu unrhyw gyfrol benodol o straeon Lovecraft a gyhoeddwyd yn Saesneg. Y straeon a gynhywsir yw "Dagon", "Y Wledd" ("The Feast"), "Cerddoriaeth Erich Zann" ("The Music of Erich Zann"), "Dan y Pyramidau" ("Under the Pyramids") a "Galwad Cthulhu" ("The Call of Cthulhu").

Y cyfieithydd yw Peredur Glyn, awdur oedd eisoes wedi ysgrifennu casgliad o straeon wreiddiol yn y Gymraeg Pumed Gainc y Mabinogi a nofel Cysgod y Mabinogi yn dwyn ysbrydolaeth uniongyrchol o waith Lovecraft.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Cthulhu a Straeon Arwyd Eraill[dolen farw], Gwefan Melin Bapur.