Galileaid

Oddi ar Wicipedia

Trigolion talaith Galilea yng ngogledd Israel yn y cyfnod Beiblaidd oedd y Galileaid. Yn y Testament Newydd, edrychai Iddewon Jwdea yn ddiystyrllyd аг y Galileaid, a haerent na chododd proffwyd erioed o Galilea ас na chyfodai yr un byth, heb gofio, neu heb wybod, mai Galilead oedd y proffwyd Jona. Mae'n debyg mai dan ddylanwad y rhagfarn cenedlaethol yma y gofynnodd Nathanael i Philip, "Nasareth? [...] Ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?" (loan 1:46).[1]

Cafodd y Cristnogion boreol yn cael eu galw yn fynych yn Galileaid, o blegid cysylltiad agos Iesu Grist a'r apostolion â'r wlad, er enghraifft Actau 2:7.[2] Prin yr arferai Julian y gwrthgiliwr un enw arall, ac "Yn erbyn y Galileaid" yw teitl ei draethawd polemig sydd yn dadlau yn erbyn Cristnogaeth. Galwai Iesu Grist "y duw Galileaidd", a phan yr oedd ar fin marwolaeth, dywedir iddo lefain, fel yr oedd yn cyfarch Crist yn wawdus, "Y Galilead! Ti a orchfygaist!"

Cafodd yr enw Galileaid ei roi hefyd i sect wleidyddol, neu yn hytrach i blaid ymysg yr Iddewon: dilynwyr Jwdas, brodor o Galilea, a gynhyrfodd ei gydwladwyr yn y flwyddyn 10 OC i gymryd arfau yn erbyn y Rhufeiniaid ac i wrthod talu teyrnged iddynt. Yr egwyddorion a ddysgai efe i'w blaid oedd, nid yn unig eu bod yn genedl rydd, ac na ddylent ymostwng i neb arall, ond eu bod yn etholedigion Duw, ac mai efe yn unig oedd eu llywydd hwy, ac am hynny na ddylent ymostwng i drefniant unrhyw ddyn. Er i Jwdas fod yn aflwyddiannus, ac i'w blaid ar y cynnig cyntaf gael ei llwyr orchfygu a'i gwasgaru, er hynny yr oedd wedi trwytho meddyliau ei ddisgyblion mor drwyadl yn ei benboethder ei hun, fei na orffwysasant nes gwarchae Jerwsalem yn y flwyddyn 70, yn ystod rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain.

Mae Johann David Michaelis yn crybwyll am sect о Galileaid, oedd yn gryn dair neu bedair mil ar ddeg о nifer, a honnent eu bod yn ddisgyblion i Ioan Fedyddiwr. Mae'n bosib iddynt oroesi mor ddiweddar â'r flwyddyn 1779, a breswylient yn agos i al-Marqab yn Syria.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ioan 1, beibl.net. Adalwyd ar 14 Medi 2017.
  2. Actau 2, beibl.net. Adalwyd ar 14 Medi 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.