Gaenor Howells
Gwedd
| Gaenor Howells | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Awst 1960 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | darlledwr |
| Tad | Geraint Howells |
| Mam | Mary Olwen Hughes |
Cyn-gyflwynydd newyddion a rhaglenni teledu a radio yw Gaenor Howells (ganwyd 14 Awst 1960)[1] neu Gaenor Wyn Howells a rhoi iddi ei henw'n llawn. Wedi ymadael â'r BBC, ac yn bendodol y BBC World Service, mae hi bellach yn arbenigo mewn hyfforddi sgiliau cyfathrebu a chyflwyno i gwmnïau busnes. Bu'n rhan o dîm cyflwyno'r gyfres Dechrau Canu, Dechrau Canmol am sawl blwyddyn. Mae hi'n ferch i'r Barwn Geraint o Bonterwyd - Geraint Wyn Howells.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Bonterwyd, mae hi wedi byw a gweithio yn Llundain ers blynyddoedd lawer. Mae hi'n rhan amlwg o sawl cymdeithas sy'n dathlu Cymreictod yn Llundain.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gaenor Wyn HOWELLS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-18.
- ↑ "Gaenor Howells". Community Foundation Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-18.