Gaeltacht Dún na nGall
Enghraifft o'r canlynol | Gaeltacht |
---|---|
Rhanbarth | Swydd Donegal |
Ardal Gaeltacht yn Swydd Dún na nGall (Donegal / Tyrconnell) yw Gaeltacht Dún na nGall (Gwyddeleg: Gaeltacht [Chontae] Dhún na nGall neu Gaeltacht Thír Chonaill; Saesneg Donegal Gaeltacht)[1][2]. Mae ganddi boblogaeth o 23,346 [3] (Cyfrifiad 2016) sef 23.4% o gyfanswm poblogaeth y Gaeltacht yn genedlaethol. Mae'r Gaeltacht yn ymestyn o Gleann Cholm Cille (Glencolmcille) yn y de i fyny ar hyd arfordir y gorllewin a thrwy ardal Gaeltacht Láir (canol) Dún na nGall ac i'r gogledd trwy Na Rosa, Gaoth Dobhair, Cloich CHeann Fhaola ac ymlaen i Fanad Head. Mae hefyd yn cynnwys ynysoedd Dún na nGall.[4]
Ystyr yr enw Dún na nGall yw ‘caer yr estron’ ac mae’n cyfeirio at ddiwedd cyrchoedd y Llychlynwyr yn y sir yn yr 8fed a’r 9g. Cyfeirir at yr ardal hefyd fel ‘Tír Chonaill’ ac mae’r enw hwn yn cyfeirio’n hanesyddol at orllewin y sir yn unig. Dyna esbonio'r ddau enw wahanol a arddelir ar y Gaeltacht, gan bod tiroedd yn Gaeltacht yn fras yn cyfateb i Tir Conaill.[5]
Manylion
[golygu | golygu cod]Mae Gaeltacht Dún na nGall yn cwmpasu ardal o 1,502 km2 (580 milltir sgwâr). Mae hyn yn cynrychioli 26% o gyfanswm arwynebedd tir y Gaeltacht yn genedlaethol. Mae tri phlwyf Na Rosa, Gaoth Dobhair a Cloughaneely yn ffurfio prif ganolfan poblogaeth Gaeltacht Dún na nGall. Mae dros 17,132 o siaradwyr Gwyddeleg, 14,500 mewn ardaloedd lle mae’n cael ei siarad gan 30–100% o’r boblogaeth a 2,500 mewn ardaloedd lle mae’n cael ei siarad gan lai na 30%. Yn 2006 roedd 2,436 o bobl yn cael eu cyflogi'n llawn amser yng nghwmnïau cleient Údarás na Gaeltachta yn Gaeltacht Dún na nGall. Mae'r rhanbarth hwn yn arbennig o boblogaidd ymhlith myfyrwyr tafodiaith Ulster; bob blwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn ymweld â'r ardal o Ogledd Iwerddon. Mae Dún na nGall yn unigryw ymhlith ardaloedd y Gaeltacht, gan fod ei hacen a'i thafodiaith yn ogleddol eu cymeriad. Mae gan yr iaith lawer o debygrwydd â Gaeleg, rhywbeth nad yw'n wir am dafodieithoedd eraill y Wyddeleg.
Ardaloedd y Gaeltacht
[golygu | golygu cod]Ceir y Gaeltacht ei gwasgaru dros ardaloedd a phentrefi: Gaoth Dobhair, Cloicheadhaola, ac ar ochr ogleddol An Rosa; Anaghaire, Croithlí, a Rann na Feirste.
- Gaoth Dobhair (Gweedore) - dyma'r plwyf Gaeltacht fwyaf yn Iwerddon, sy'n gartref i stiwdios rhanbarthol RTÉ Raidió na Gaeltachta. Mae wedi cynhyrchu cerddorion traddodiadol adnabyddus, gan gynnwys y bandiau Altan a Clannad, yn ogystal â’r artist Enya. Mae'r tri wedi recordio cerddoriaeth Wyddeleg.
- Cloich Cheann Fhaola[6] (Cloughaneely) - ardal yw hon yng ngogledd-orllewin Swydd Dún na nGall. Mae hon yn ardal arfordirol yn bennaf gyda phoblogaeth o dros 4,000 wedi'i chanoli ar drefi An Fál Carrach (Falcarragh) a Gort an Choirce (Gortahork).Gwyddeleg a siaredir fel y brif iaith yma.[7] Ceir ysgol uwchradd o'r enw Pobalscoil Chloich Cheannfhaola yno, gydag ychydig llai na 500 o fyfyrwyr. Mae pentrefi Cloughaneely, Na Rosa (The Rosses) a Gaoth Dobhair, a adnabyddir yn lleol fel "Y Tri Phlwyf"[angen ffynhonnell] yn cynnwys 16,000 o siaradwyr Gwyddeleg. Gyda'i gilydd maent yn ffurfio cymuned gymdeithasol a diwylliannol wahanol i weddill y sir, gyda thref Gaoth Dobhair yn brif ganolfan diwydiant.
- Na Rosa (The Rosses)[8] - un o'r 'Tri Phlwyf' ac mae ganddi boblogaeth o dros 7,000 wedi'i chanoli ar dref Dungloe, sy'n gweithredu fel canolfan addysgol, siopa a dinesig yr ardal. Wedi'i diffinio gan ffiniau daearegol ar ffurf afonydd, yn ogystal â hanes a defnydd iaith, mae gan yr ardal hunaniaeth nodedig, sy'n wahanol i weddill Swydd Dún na nGall. Gorwedd yr ardal helaeth rhwng plwyf ac ardal Gaoth Dobhair i'r gogledd a thref Glenties i'r de. Mae rhan helaeth o Na Rosa yn y Gaeltacht.
- an Láir - ardal wedi ei chanoli ar bentref Baile na Finne (Fintown) ac yn ymestyn i'r de i Gleann Colm Cille (Glencolmcille hefyd Glencolumbkille) ac i'r gogledd i Fánaid a Ros Goill (Rosguill).[9] Mae bron i 7,000 o bobl yn byw yn yr ardal a 2,000 o siaradwyr Gwyddeleg dyddiol.[10]
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r Wyddeleg yn ogystal â threfi a thirwedd y Gaeltacht yn cael eu hyrwyddo. Ceir Bealach na Gaeltachta (Ffordd y Gaeltachta) sy'n arwain y gyrrwr drwy'r ardal gyda phedair llwybr arbennig.[11]
Tref Wasanaethau'r Gaeltacht
[golygu | golygu cod]Trefi Letterkenny a Dún na nGall sydd â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' i'r Gaeltacht wledig. Gydag hynny, mae disgwyl i'r ddinas roi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gaelphobal - Corff cynllunio iaith trefol tu allan i'r Gaeltacht
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gorsaf dân Gaoth Dobhair
-
Brinlack, tai ger Bae Gaoth Dobhair (2005)
-
Gorsaf drên Baile na Finne
-
Ffenest Eglwys St Columba yn Gleann Colm Cille
-
Cofeb yn An Fál Carrach
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ udaras.ie Archifwyd 3 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Ceisteanna—Questions. Oral Answers. – Gaeltacht Thír Chonaill". Houses of the Oireachtas. 4 June 1975.
- ↑ "Donegal". Údarás na Gaeltachta. 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013.
- ↑ "Explore Donegal Gaeltacht". Go Visit Donegal. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
- ↑ "Donegal". Gwefan Údarás na Gaeltachta. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
- ↑ Enwau lleoedd (Ceantair Ghaeltachta) ) Gorchymyn 2004. Archifwyd 2014-03-27 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Lleoedd Archifwyd 2005-04-06 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Placenames (Ceantair Ghaeltachta) Order 2004
- ↑ Placenames (Ceantair Ghaeltachta) Order 2004
- ↑ "Fintown - Baile na Finne". Donegal on the Net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-28. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Bealach na Gaeltachta Discover Donegal". Go Visit Donegal. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gaeltacht of Donegal Gwefan Údarás na Gaeltachta, y sefydliad sy'n gyfrifol am y Gaeltachtai
- Coláiste an Phiarsaigh coleg neu ysgol haf i bobl ddysgu Gwyddeleg
- Donegal Gaeltacht Challenges, Ireland 1972 Eitem ffilm
- The Gaeltacht Festival Gweedore, Co. Donegal, Ireland 1970 Eitem ffilm