Gaborone
Gwedd
| Math | dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Kgosi Gaborone |
| Poblogaeth | 235,884 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Q134129969 |
| Cylchfa amser | Central Africa Time, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | South-East District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 169 ±1 km² |
| Uwch y môr | 1,014 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 24.6569°S 25.9086°E |
| BW-GA | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Q134129969 |
![]() | |
Prifddinas a dinas fwyaf Botswana, yn ne-orllewin Affrica yw Gaborone (hen enw: Gaberones). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad yn agos iawn i'r ffin â thalaith Transvaal yng Ngweriniaeth De Affrica. Symudwyd y brifddinas i Gaborone o ddinas Mafeking yn 1965. Lleolir rhan o Brifysgol Botswana a Gwlad Swasi yno.
Mae'r ddinas yn gorwedd i'r dwyrain o anialwch mawr y Kalahari mewn ardal gymharol ffrwythlon. Ceir llyn mawr ar gyrion y ddinas. Mae rheilffordd yn cysylltu'r ddinas â gogledd-ddwyrain y wlad a dinas Bulawayo yn Simbabwe, ac â Johannesburg a Pretoria i'r de dros y ffin yn Ne Affrica.

