Ga
| Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon – diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 20 Gorffennaf 2026, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwyddynt? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Iaith yw Ga sy'n cael ei siarad yn Ghana, yn y brif ddinas Accra a'r cyffiniau. Pobl o grŵp ethnig y Ga sy'n ei siarad, ac mae'n rhan o deulu'r ieithoedd Kwa. Mae yna rai siaradwyr yn Togo, Benin a gorllewin Nigeria hefyd. Mae hi'n gwahaniaethu'n seinegol rhwng tair math o lafariaid o ran hyd.
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Mae Ga yn iaith Kwa, sy'n gangen o Ieithoedd Niger-Congo. Mae hi'n perthyn yn agos i'r iaith Adangme, a'r ddwy iaith gyda'i gilydd yw'r gangen Ga-Dangme o fewn Kwa.
Ga yw prif iaith y bobl Ga, grŵp ethnig o Ghana. Mae cyfenwau teuluol Ga yn cynnwys Owoo, Lartley, Lomo, Nortey, Aryee, Lamptey, Tetteh, Ankrah, Tetteyfio a Laryea.
Dosbarthiad daearyddol
[golygu | golygu cod]Mae Ga yn cael ei siarad yn ne-ddwyrain Ghana, yn Accra a'r cyffiniau. Does dim llawer o amrywiaeth o ran tafodieithoedd. Er mai Saesneg yw iaith swyddogol Ghana, mae Ga yn un o'r 16 iaith mae'r Bureau of Ghana Languages yn cyhoeddi deunydd ynddi.
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Cytseiniaid
[golygu | golygu cod]Mae gan Ga 31 ffonem cytseiniol.
| Gwefusol | Deintiol | Ôl-orfannol a thaflodol |
Felar | Gwefusol-felar | Glotal | |||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Plaen | Labialeiddiedig | Plaen | Lab.v | Plaen | Lab. | |||||||||||
| Trwynol | m | n | ɲ | ŋ | ŋ͡m | |||||||||||
| Ffrwydrol | p | b | t | d | tʃ | dʒ | tʃʷ | dʒʷ | k | ɡ | kʷ | ɡʷ | k͡p | ɡ͡b | ||
| Ffrithiol | f | v | s | z | ʃ | ʃʷ | h | hʷ | ||||||||
| Cytsain ddynesol | l | j | ɥ | w | ||||||||||||
- Un o aloffonau /w/ yw [ŋʷ], ond fe'i cynrychiolir â deugraff wrth ysgrifennu.
- Gellir cynhyrchu /l/ fel [ɹ] pan ddaw rhwng llafariad a chytsain
- Un o aloffonau /j/ yw [ɲ] cyn llafariaid trwynol
Llafariaid
[golygu | golygu cod]| Blaen | Canolog | Yn ôl | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| llafar | trwynol | llafar | trwynol | llafar | trwynol | |
| Cau | i | ĩ | u | ũ | ||
| Canol-agos | e | o | ||||
| Agored-canol | ɛ | ɛ̃ | ɔ | ɔ̃ | ||
| Agor | a | ã | ||||
Tonau
[golygu | golygu cod]Mae gan Ga ddau dôn, uchel ac isel. Fel llawer o ieithoedd Gorllewin Affrica, mae ganddi derasu tôn.
Ffonotacteg
[golygu | golygu cod]Strwythur sillafau Ga yw (C)(C)V(C), lle dim ond /l/ all ail ffonem clwstwr cytseiniaid cychwynnol fod. a gall cytsain derfynol fod yn gytsain drwynol (byr neu hir) yn unig, er enghraifft ekome, "un", V-CV-CV; kakadaŋŋ, "hir", CV-CV-CVC; mli, "y tu mewn", CCV. Gall sillafau Ga hefyd gynnwys trwynol sillafog yn unig, er enghraifft yn sillaf gyntaf ŋshɔ, "môr".
System ysgrifennu
[golygu | golygu cod]
Wyddor yr iaith Ga yw:
Aa, Bb, Dd, Ee, Ɛɛ, Ff, Gg, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Ŋŋ, Oo, Ɔɔ, Pp, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Yy, Zz
Mae'r llythrennau canlynol yn cynrychioli'r synau sydd ddim yn cyfateb â'r un llythyren â'r symbol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol.
- J j - /d͡ʒ/
- Y y - /j/
Deugraffau a thrigraffau:
- Gb gb - /ɡ͡b/
- Gw gw - /ɡʷ/
- Hw hw - /hʷ/
- Jw jw - /d͡ʒʷ/
- Kp kp - /k͡p/
- Kw kw - /kʷ/
- Ny ny - /ɲ/
- Ŋm ŋm - /ŋ͡m/
- Ŋw ŋw - [ŋʷ] (aloffon yn hytrach na ffonem)
- Sh sh - /ʃ/
- Ts ts - /t͡ʃ/
- Shw shw - /ʃʷ/
- Tsw tsw - /t͡ʃʷ/