Neidio i'r cynnwys

Gŵyr Abertawe (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Gŵyr Abertawe
Enghraifft o:ardal etholiadol arfaethedig, etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o etholaethau'r Senedd yw Gŵyr Abertawe, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Bydd yr etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2024 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy o etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig, sef Gŵyr ar y naill law a Gorllewin Abertawe ar y llall. Bydd y ffiniau'n cael eu hadolygu eto cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd yr enw a'r ffiniau Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym mis Mawrth 2025. [1]

Mae'n cynnwys rhannau o sir (hynny yw, prif ardal) Abertawe. Mae'r etholaeth i'w sefydlu erbyn 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod â'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" mwy, gan uno 32 etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio system bleidleisio newydd sy'n gwbl gyfrannol, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[2]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]
Etholiad Senedd Cymru, 2026: Gŵyr Abertawe
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Tom Giffard - - -
Gwyrdd Chris Evans - - -
Llafur Mike Hedges
Rob Stewart
Rebecca Fogarty
Rebecca Francis‑Davies
Sara Faye
Kemba Hadaway‑Morgan
Patience Bentu
Victoria Holland
- - -
Democratiaid Rhyddfrydol Sam Bennett
Franck Banza
- - -
Plaid Cymru Gwyn Williams[3]

Safa Elhassan
John Davies
Rhiannon Barrar
Dafydd Williams
Harri Roberts

- - -

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  2. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  3. https://golwg.360.cymru/newyddion/2186128-llywodraeth-cymru-cefnu-brosiect-addysg-wyddonol