Neidio i'r cynnwys

Gŵyl Canol Dre

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Canol Dre
Enghraifft o:gŵyl Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2018 Edit this on Wikidata
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Gŵyl cerddoriaeth pop Cymraeg a diwylliannol yn nhref Caerfyrddin yw Gŵyl Canol Dre. Sefydlwyd hi yn 2018 ac fe'i threfnir gan Fenter Gorllewin Sir Gâr. Fe'i cynhelir ar gaeau Parc Myrddin sef safle hen Ysgol Gyfun Bro Myrddin (Ysgol Ramadeg Caerfyrddin gynta) ar Heol Waun Dew yn y dref.[1] Mae'n un o rwydwaith genedlaethol o Fenetrau Iaith.

Cynnwys

[golygu | golygu cod]
Gŵyl Canol Dre 2026, rhestr perfformwyr a noddwyr ar y daflen hyrwyddo
Gŵyl Canol Dre, 2026

Cynhelir yr ŵyl fel rheol ar ddydd Sadwrn yng nghanol mis Gorffennaf gan beidio gwrthdaro gyda gwyliau tebyg Cymraeg megis Tafwyl.

Mae Gŵyl Canol Dre' am ddim ac yn agored i bobl o bob oed. Y bwriad yw hybu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Ceir dau lwyfan ac yn ogystal â pherfformiadau gan bandiau o'r Sîn Roc Gymraeg, ceir chwaraeon, llenyddiaeth, celf ac amrywiaeth o weithdai. Mae’r ŵyl yn cynnwys stondinau i werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau lleol.[1]

Perfformwyr

[golygu | golygu cod]

Ymysg y bandiau sydd wedi perfformio mae Yws Gwynedd, Gwilym, Eden, Lowri Evans, Mellt a mwy. Ceir hefyd perfformiadau gan ddisgyblion ysgolion lleol.[2] Y prif noddwyr yw Cyngor Tref Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a chwmnïau fel Castell Howell a Tai Wales & West.[3]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Amdanom". Gwefan Menter Gorllewin Sir Gâr. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2026.
  2. ↑ "Amserlenni 2026". Gwefan Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2026.
  3. ↑ "Gŵyl Canol Dre". Llenyddiaeth Cymru. 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato