Gütersloh
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, large district town, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 101,158 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Henning Schulz ![]() |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gütersloh ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 112.02 km² ![]() |
Uwch y môr | 75 metr ![]() |
Gerllaw | Ems ![]() |
Yn ffinio gyda | Steinhagen, Bielefeld, Verl, Rietberg, Rheda-Wiedenbrück, Herzebrock-Clarholz, Harsewinkel ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9°N 8.3833°E ![]() |
Cod post | 33330 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Henning Schulz ![]() |
![]() | |
Mae Gütersloh yn dref yn Nordrhein-Westfalen, un o Länder Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Gütersloh yw prifddinas Kreis Gütersloh.
Diwydiannau sylweddol[golygu | golygu cod]
Mae Gütersloh yn dref ddiwydiannol gyda chyflogwyr sylweddol megis Miele a Bertelsmann; tu mewn i'r gylchffordd yw canol y dref sy'n cynnwys amrywiaeth o siopau a siopau adrannol.
Adloniant[golygu | golygu cod]
Mae gan Gütersloh ddau barc: Parc Mohns sy'n cynnwys amffitheatr, pwll padlo a sawl iard chwarae, a pharc mwy, y Stadt Park ("parc y dref"), sy'n cynnwys llyn badau, gardd fotanegol a llawer o lwybrau wedi eu hymylu gyda choed aeddfed.
Mae gan y dref bedwar pwll nofio, gan gynnwys un o faint Olympaidd.
Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]
|
Gwersyll Awyrlu Gütersloh[golygu | golygu cod]
Roedd gwersyll yr Awyrlu Brenhinol yn Gütersloh yn gartref tan gwymp Mur Berlin i Sgwadronau 3 a 4, a ddefnyddiai'r VTOL Harrier gyda chefnogaeth hofrenyddion Chinook Sgwadron 18 a hofrenyddion Puma Sgwadron 230. Roedd yno hefyd staff o Gatrawd yr Awyrlu Brenhinol a ddarparodd cefnogaeth taflegrau daear i awyren. Roedd RAF Gütersloh un o'r wersylloedd awyr NATO mwyaf dwyreiniol yn ystod y Rhyfel Oer.
Yn wreiddiol adeiladwyd y gwersyll awyr ar gyfer y Luftwaffe a ddefnyddiai Bomwyr Junkers yno. Caewyd RAF Gütersloh ym 1993.
Gwersyll Gütersloh y Fyddin Brydeinig[golygu | golygu cod]
Cymerodd y Fyddin Brydeinig dosodd ym 1993 a chafodd RAF Gütersloh ei ailenwi fel y Princess Royal Barracks, Gütersloh.