Fyodor Tyutchev

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fyodor Tyutchev
Tiutchev.jpg
Ganwyd 23 Tachwedd 1803 Edit this on Wikidata
Q1113112 Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Gorffennaf 1873 Edit this on Wikidata (69 oed)
Pushkin Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol y Wladwriaeth, Moscaw Edit this on Wikidata
Gwaith Awdur, bardd, diplomydd, athronydd Edit this on Wikidata
Aelod o Academi Gwyddoniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
Priod Eleonora Tyutcheva, Ernestina Pfeffel Edit this on Wikidata
Plant Q4467738, Maria Tutcheva, Anna Tyutcheva, Q4467740, Daria Tutchevа Edit this on Wikidata
Teulu Nikolay Ivanovich Tutchev Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, 3ydd Dosbarth Edit this on Wikidata

Roedd Fyodor Ivanovich Tyutchev (Ffedor Ifánofits Tiwtsief) (Rwseg: Фёдор Иванович Тютчев) (5 Rhagfyr 180327 Gorffennaf 1873) yn fardd Rwseg a diplomydd Rwsiaidd.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd ym mhentref Ovstug ger Bryansk Roedd yn byw ar adegau ym Munich a Torino ac y roedd yn nghynefin Heine a Schelling. Doedd e ddim yn cyfrannu at fywyd llenyddol, nac yn ei alw ei hun yn ysgrifennwr. Tuag at 400 o'i gerddi sydd ar glawr, ac mae rhai llinellau ohonynt yn cael eu dyfynnu'n aml yn Rwsia.

Mae'r cerddi cynnar yn perthyn i dradoddiad barddoniaeth Rwsiaidd yr 18g. Yn y 1830au traddodiadau Oes Rhamantaidd Ewrop (a'r Almaen yn arbennig) sydd yn gryf iawn yn ei farddoniaeth. Cerddi telynegol athronyddol yw'r rhain: myfyrion ar y dynged ddynol, ar yr hollfyd, ar yr ansawdd sydd yn brif bwnc ohonynt. Yn y 1840au ysgrifennodd rai erthyglau gwledyddol ynglyn â'r berthynas rhwng Rwsia a gwareiddiad y Gorllewin. Yn y 1850au creuodd Tiwtsief rhai rhieingerddi trywan y mae serch yn cael ei weld fel trasiedi ynddynt. Mae'r cerddi hyn wedi cael eu huniaethu â'r Cylch Denísïefa, nid amgen, y cerddi a gafodd eu cysegru i gariad y bardd, E. A. Denísïefa. Yn y 1860au a'r 1870au cerddi gwleidyddol sydd yn goruchafu yn ei farddoniaeth.

Cerdd enwocaf Tyutchev yw Silentium! — anogaeth chwerw i ddistawrwydd edifaru'r ffaith nad yw'r naill dyn ddim yn gallu deall y llall o'r bron. Mae'r llinell "Anwiredd yw meddwl wedi'i adrodd" (Rwseg Мысль изреченная есть ложь) yn un o ddiarhebion Tyutchev sydd yn cael eu dyfynnu amlaf. "Ni ellir deall Rwsia drwy feddwl" (Умом Россию не понять) a "Ni roddir i ni ddarogan sut yr ymatebith ein gair i ni" (Нам не дано предугадать, как наше слово отзовется) yw'r rhai eraill.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]