Fruits Basket

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Basged Ffrwythau (フルーツバスケット Furūtsu Basuketto?), weithia: Furuba (フルバ?), yn air Japaneg ac yn gyfres manga shōjo wedi'i sgwennu a'i arlunio gan Natsuki Takaya. Fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn y cylchgrawn Hana to Yume, a'i argraffu gan Hakusensha, o 1999 i 2006. Cafodd y cyfres ei haddasu yn 26-rhifyn o anime wedi ei gynhyrchu gan Akitaro Daichi.

Mae'r gyfres yn adrodd stori am ferch a fabwysiadwyd, Tohru Honda, sy'n cyfarfod Yuki, Kyo, ac mae Shigure Sohma yn dysgu fod 12 o deulu Sohma wedi cael eu dewino gan anifeiliaid y Sodiac Tieiniaidd (十二支 Jūnishi) a'u troi i ffurf anifail pan maent yn wan, neu pan fo rhywun o'r rhyw arall yn rhoi hyg iddyn nhw.

Daw'r teitl o enw gem boblogaidd a chwaraeir yn ysgolion uwchradd Japan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]