Neidio i'r cynnwys

Friedrich Robert Faehlmann

Oddi ar Wicipedia
Friedrich Robert Faehlmann
Ganwyd31 Rhagfyr 1798 Edit this on Wikidata
Koeru Parish Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ebrill 1850 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Tartu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Estonia Estonia
Alma mater
  • Tartu Governorate Gymnasium
  • Q62018688
  • Prifysgol Imperial Dorpat Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, ysgrifennwr, academydd, ieithegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Imperial Dorpat Edit this on Wikidata
Cofeb yn ninas Tartu

Roedd Friedrich Robert Faehlmann (neu, gyda'r didolnod, Friedrich Robert Fählmann) (20 Rhagfyr 179810 Ebrill 1850; Calendr Gregori: 31 Rhagfyr 1798 – 22 Ebrill 1850) yn awdur o Estonia, meddyg, ac ieithegydd a oedd yn weithgar yn Livonia, Ymerodraeth Rwsia. Yr oedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgiedig Estonia (Almaeneg: Gelehrte Estnische Gesellschaft, Estoneg: Õpetatud Eesti Selts) ym Mhrifysgol Dorpat (Prifysgol Tartu, bellach, Dorpat oedd yr enw Almaeneg ar y ddinas) a'i chadeirydd (1843-1850). Dylid nodi ar y pryd mai Almaeneg oedd prif iaith addysg, statws a gweinyddiaeth yn Estonia.

Fe'i ganed i deulu rheolwr Ystâd Ao (Hegeweid yn Almaeneg) yn awr ym Mhlwyf Väike-Maarja, yn sir Järva yng nghanol Estonia. Yn 1825 graddiodd o adran feddygol Prifysgol Dorpat (Prifygsol Tartu bellach). Yn 1827 enillodd radd MD a daeth yn feddyg yn Dorpat (yn awr Tartu). Yn ogystal bu'n darlithio yn yr iaith Estoneg yn y brifysgol yn ystod 1842-1850.

Yn y 1820au dechreuodd ymddiddori yn niwylliant Estonia ac, yn 1838, daeth yn gyd-sylfaenydd y Learned Estonian Society.

Tynnodd sylw at lên gwerin Estonia, yn arbennig y Kalevipoeg sydd, ers ei farwolaeth, wedi dod yn epig genedlaethol Estonia, diolch i ymdrechion Estoffiliaid arall, Friedrich Reinhold Kreutzwald. Cofnododd hefyd nifer o chwedlau.

Ym 1840 cyhoeddwyd ei stori "Koit ja Hämarik" (Gwawr a Gwyll) am y tro cyntaf.

Rôl Faehlmann yn y Kalevipoeg

[golygu | golygu cod]

Weithiau bydd ymchwil hŷn yn rhoi'r argraff mai Faehlmann oedd awdur gwreiddiol yr epig o Estonia, Kalevipoeg.[1] Fodd bynnag, nid yw hyn ond yn gywir i'r graddau bod Faehlmann mewn gwirionedd wedi'i gomisiynu gan Gymdeithas Ddysgedig Estonia i lunio epig ac wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi hefyd. Ond pan ar ôl ei farwolaeth yr ymddiriedwyd i Friedrich Reinhold Kreutzwald am barhad y gwaith, daeth i'r amlwg mai byr iawn oedd nodiadau Faehlmann, heb fod yn epig gyfan o bell ffordd.

Mae'r Kalevipoeg a adwaenir heddiw yn amlwg yn waith Kreutzwald. Fodd bynnag, roedd Faehlmann wedi rhoi darlith bwysig ar destun y chwedl, a gafodd ei hargraffu hefyd yn 1846 mewn llyfr hanes a gyhoeddwyd ym Moscow.[2] Mae'r ddarlith hon ar y Kalevipoeg yn un o'r "Urtexte" ar gyfer epig ddiweddarach Kreutzwald. Nid yw'n cael ei gyfrif yn gyffredinol ymhlith yr "wyth myth", ond o ran cynnwys mae'n amlwg yn perthyn i sagenoeuvre Faehlmann.

Bu farw o'r darfodedigaeth yn Dorpat, Tartu.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Traethawd Hir M.D. "Observationes inflammationum occultiorum" (1827)
  • "Versuch einer neuen Anordnung der Conjunctionen in der estnischen Sprache" (1842)
  • "Ueber die Declination der estnischen Nomina" (1844)
  • "Die Ruhrepidemie in Dorpat im Herbst 1846" (1846)
  • "Verhandlungen der Gelehrten estnischen Gesellschaft" (1852)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Henno Jänes: Geschichte der estnischen Literatur. Stockholm: Almqvist und Wiksell 1965. 188 S. (Acta Universitatis Stockholmiensis. Stockholm Studies in History of Literature 8) S. 30.
  2. Friedrich Kruse: Ur-Geschichte des Esthnischen Volksstammes und der Kaiserlich Russischen Ostseeprovinzen Liv-, Esth- und Curland überhaupt, bis zur Einführung der christlichen Religion. Moskau: Friedrich Severins Verlagsbuchhandlung 1846, S. 175–184.