Freedom Come-All-Ye

Oddi ar Wicipedia

Cân brotest, gwrth-imperialaidd yn yr iaith Sgoteg yw Freedom Come-All-Ye. Cyfansoddwyd hi gan Hamish Henderson yn 1960.

Dyma un o ganeuon bwysicaf a mwyaf poblogaidd Henderson. Mae'n cynnig golwg di-ramant, gonest, o ran yr Albanwyr wrth wladychu'r byd fel rhan o Ymerodraeth Prydain. Mae'n deisyfu 'awel newid' ("winds of change") oedd yn chwythu drwy'r byd i ysgibo gormes ac imperialaeth. Mae'n beirnadu rhan milwyr o'r Alban fel milwyr taeog yn ymladd rhyfeloedd imperialaidd ac ymladd dros wlad dramor yn hytrach na bod yn rym dros gyfiawnder.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd fersiwn gynnar o'r ddau bennill gyntaf mewn cyhoeddiad "Writers against Aparthied" (sic) yn y gwanwdyn yn 1960;[1] gan fod y linell gyntaf yn cyfeirio at araith enwog 'Winds of Change' y Prif Weindiog Prydain, Harold Macmillan a draddodwyd ym mis Chwefror yn 1960 gellid ei ddyddio yn eithaf agos.[2][3] Recordiwyd Henderson yn canu'r fersiwn 3 pennill o'r gân y flwyddyn honno.[4] Cyfeirir at Nyanga, sef treflan ger Kaaptad yn Ne Affrica oedd wedi bod yn flaenllaw yn gwrthwynebu apartheid yn 1960.[5]

Cyfeirir at "McLean" yn y gân, sef John Maclean sosialydd a gweriniaethwr Albanaidd a gwrthwynebydd i'r Rhyfel Byd Cyntaf ac oedd o blaid hunanlywodraeth i'r Alban.

Mae tôn y gân yn addasiad o orymdeithgân i'r pibau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, "The Bloody Fields of Flanders",[6] a gyfansoddwyd gn John McLellan DCM (Dunoon),[7] a glywyd gan Henderson gyntaf yn cael ei chwarae ar draeth Anzio. Ysgrifennodd y geiriau wedi trafodaeth gyda Ken Goldstein, Americanwr ac ymchwilydd yn School of Scottish Studies, a oedd wedi mwynhau fersiwn Henderson o'r dôn.[8] Yn nes ymlaen, mabwysiadwyd y gân orymdeithwyr mudiad diarfogi niwclear, CND yn ei protest gwrth-Polaris, yn yr Holy Loch yn 1961).

Mae'r gân yn rhan o Adfywiad Gwerin yr Alban, a chanu protest, fel yng Nghymru gyda chaneuon Dafydd Iwan o'r 1960au.[9] Mae'r gân yn boblogaidd gyda'r mudiad annibyniaeth ac asgell chwith yn yr Alban gan fod yn fath o anthem answyddogol.[10] Disgrifiodd Henderson y gân fel "expressing my hopes for Scotland, and for the survival of humanity on this beleaguered planet.".[11]

Efallai mai un syndod yw nad oes fersiwn Gymraeg o'r gân wedi ei chyfieithu neu addasu.

Anthem[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd y gân fel anthem newydd genedlaethol i'r Alban, gan nad oes un swyddogol, er, teimlau Henderson mai rhan o gryfder y gân oedd ei fod yn "anthem rynglwadol" amgen.

Perfformiwyd fersiwn o'r gân gan y gantores soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza, yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yn yr Alban.[12][13]

Geiriau[golygu | golygu cod]

Geiriau Sgoteg
Roch the wind in the clear day's dawin
Blaws the cloods heilster-gowdie owre the bay
But there's mair nor a roch wind blawin
Thro the Great Glen o the warld the day
It's a thocht that wad gar oor rottans
Aa thae rogues that gang gallus fresh an gay
Tak the road an seek ither loanins
Wi thair ill-ploys tae sport an play
Nae mair will our bonnie callants
Merch tae war when oor braggarts crousely craw
Nor wee weans frae pitheid an clachan
Mourn the ships sailin doun the Broomielaw
Broken faimlies in lands we've hairriet
Will curse 'Scotlan the Brave' nae mair, nae mair
Black an white ane-til-ither mairriet
Mak the vile barracks o thair maisters bare
Sae come aa ye at hame wi freedom
Never heed whit the houdies croak for Doom
In yer hoos aa the bairns o Adam
Will find breid, barley-bree an paintit rooms
When Maclean meets wi's friens in Springburn
Aa thae roses an geans will turn tae blume
An the black lad frae yont Nyanga
Dings the fell gallows o the burghers doun.
Cyfieithiad Saesneg
It's a rough wind in the clear day's dawning
Blows the clouds head-over-heels across the bay
But there's more than a rough wind blowing
Through the Great Glen of the world today
It's a thought that would make our rodents,
All those rogues who strut and swagger,
Take the road and seek other pastures
To carry out their wicked schemes
No more will our fine young men
March to war at the behest of jingoists and imperialists
Nor will young children from mining communities and rural hamlets
Mourn the ships sailing off down the River Clyde
Broken families in lands we've helped to oppress
Will never again have reason to curse the sound of advancing Scots
Black and white, united in friendship and marriage,
Will make the slums of the employers bare
So come all ye who love freedom
Pay no attention to the prophets of doom
In your house all the children of Adam
Will be welcomed with food, drink and clean bright accommodation
When MacLean returns to his people
All the roses and cherry trees will blossom
And the black guy from Nyanga
Will break the capitalist stranglehold on everyone's life

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.facebook.com/hamisharchive/photos_albums
  2. http://news.bbc.co.uk/onthisday/hi/dates/stories/february/3/newsid_2714000/2714525.stm
  3. https://www.youtube.com/watch?v=c07MiYfpOMw
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-10-12.
  5. https://www.sahistory.org.za/places/nyanga-township
  6. https://www.youtube.com/watch?v=ogN6_ZTtT-Q
  7. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-02-28. Cyrchwyd 2018-10-12.
  8. http://www.folkmusic.net/htmfiles/inart486.htm[dolen marw]
  9. Harvie, Christopher (1998). No Gods and Precious Few Heroes: Twentieth-century Scotland. t. 16. ISBN 9780748609994.
  10. Spirits of the Age: Scottish Self Portraits. The Saltire Society. 2005. t. 145. ISBN 9780854110872.
  11. "Motions, Questions and Answers Search - Parliamentary Business : Scottish Parliament". Scottish.parliament.uk. Cyrchwyd 2014-07-26.
  12. Hugh Macdonald. "The Games opens: a ceremony of gallusness with a powerful charity theme". Herald Scotland. Cyrchwyd 2014-07-26.
  13. Dickie, Mure (24 July 2014). "Glasgow humour on show as Commonwealth Games open". Cyrchwyd 27 July 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]