Frederik Willem de Klerk
Frederik Willem de Klerk | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
18 Mawrth 1936 ![]() Johannesburg ![]() |
Man preswyl |
Tref y Penrhyn ![]() |
Dinasyddiaeth |
De Affrica ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd |
State President of South Africa, Deputy President of South Africa, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Minister of Education ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Y Blaid Genedlaethol ![]() |
Tad |
Johannes de Klerk ![]() |
Mam |
Corrie Coetzer ![]() |
Priod |
Marike de Klerk ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Heddwch Nobel, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Philadelphia Liberty Medal, Gwobr James Joyce, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Haifa, Gold Order of Mapungubwe ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Frederik Willem de Klerk (ganed 18 Mawrth 1936) oedd Arlywydd olaf De Affrica yng nghyfnod Apartheid, o fid Medi 1989 hyd fis Mai 1994. Mae'n fwyaf adnabyddus am gynnal y trafodaethau a arweiniodd ar ddiwedd Apartheid.
Ganed de Klerk yn Johannesburg, yn fab i gyn-aelod o'r Senedd, Jan de Klerk, a nai i J.G. Strijdom, oedd wedi bod yn Brif Weinidog De Affrica rhwng 1954 a 1958.
Daeth yn aelod seneddol dros Vereeniging yn 1969, ac yn aelod o'r cabinet yn 1978. Ystyrid ef yn wleidydd ceidwadol iawn, ond yn 1989 arweiniodd garfan a orfododd yr Arlywydd P. W. Botha i ymddiswyddo. Fel Arlywydd, gwnaeth i ffwrdd a'r gwaharddiad ar yr ANC, Plaid Gomiwnyddol De Affrica a mudiadau eraill ym mis Chwefror 1990. Ar 10 Chwefror yr un flwyddyn, cyhoeddodd y byddai Nelson Mandela yn cael ei ryddhau o garchar. Yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng de Klerk a Mandela, gwnaed i ffwrdd ag Apartheid, a daeth Mandela yn Arlywydd yn dilyn etholiadau 1994. Bu de Klerk yn Ddirprwy Arlywydd hyn 1997, pan ymddeolodd o wleidyddiaeth.
Yn 1993, dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a Nelson Mandela am eu gwaith yn rhoi diwedd ar Apartheid.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Pieter Willem Botha |
Arlywydd De Affrica 1989 – 1994 |
Olynydd: Nelson Mandela |