Frank Hill

Oddi ar Wicipedia
Frank Hill
Ganwyd13 Ionawr 1866 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 1927 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Clifton Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Algernon Frank Hill (13 Ionawr 1866 - 20 Ebrill 1927) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd.[1] Enillodd 15 cap dros Gymru dros gyfnod o ddeng mlynedd a chafodd gapteniaeth y tîm ar bedwar achlysur.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hill ym Mhenybryn, Caerdydd, yn blentyn i George Frederick Hill, cyfreithiwr, ac Elizabeth (née Fiddy) ei wraig, fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste. Wedi gwneud ei erthyglau yn y gyfraith yn swyddfa ei dad cymhwysodd yn gyfreithiwr ym 1889.[2] Bu'n gweithio i gwmni ei dad hyd 1904 pan etifeddodd y cwmni ar farwolaeth ei dad, prif waith y cwmni oedd gwasanaethu fel ymgynghorydd cyfreithiol i gymdeithas tafarnwyr trwyddedig Caerdydd. Ym 1895 priododd Amy Pearce, merch Thomas Pearce, Caerfaddon.[3] Ni fu iddynt blant.

Bu farw yn ei gartref yn Llys-faen, ger Caerdydd yn 62 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Lansdown, Caerfaddon.[4]

Gyrfa Rygbi[golygu | golygu cod]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Hill 153 o gemau i Gaerdydd. Chwaraeodd yn rheolaidd tan dymor 1886-7, ond yn y gêm ymarfer ym mis Medi tynnodd ei ben-glin o'i le, ac o ganlyniad bu'n rhaid iddo gymryd tymor o orffwys. Ym 1887-8 bu'n gwasanaethu fel is-gapten ac yn y tymor nesaf roedd yn gapten o'r tîm. Un o lwyddiannau mawr y tîm yn ystod ei gapteiniaeth oedd curo'r M͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏āories. Bu'n rhaid iddo orffwys am ddau dymor arall oherwydd anaf, ond aeth yn ôl i'r pac yn nhymor 1892-3 gan chwarae ymlaen tan 1894-5 pan etholwyd ef eto yn gapten. Unwaith eto cafodd ei ben-glin ei dynnu o'i le, ac roedd ei ymddeoliad nesaf yn un parhaol. [5]

Wedi rhoi'r gorau i chwarae parhaodd Hill i wasanaethu Clwb Rygbi Caerdydd fel trysorydd y clwb. [5]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Dewiswyd Hill gyntaf ar gyfer Cymru mewn gêm yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1885. O dan gapteiniaeth Charlie Newman o Gasnewydd, roedd y gêm yn gêm gyfartal di sgôr ddiflas a achoswyd gan ymdrechion Cymru i ladd y gêm ar unrhyw gyfle. Chwaraeodd Hill yn y ddwy gêm gartref ym Mhencampwriaeth 1886, ond ni chafodd ei ddewis yn ystod twrnamaint y flwyddyn olynol. Ym 1888 profodd Hill ei fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf, pan oedd yn rhan o dîm Cymru a gurodd yr Alban yn Rodney Parade. Enillodd Cymru gydag un cais, a sgoriwyd gan Thomas Pryce-Jenkins yn yr hanner cyntaf cyn defnyddio'r un tactegau difetha a defnyddiwyd ganddynt ym 1885 i atal yr Alban rhag sgorio.

Ym mis Rhagfyr 1888, dewiswyd Hill i fod yn gapten ar Gymru yn erbyn tîm teithiol cyntaf Hemisffer y De i Brydain pan wynebodd Māoris Seland Newydd. Defnyddiodd Cymru'r system pedwar trichwarterwr yn ystod y gêm am y tro cyntaf ers ei hepgor wedi methiant y dacteg yn erbyn yr Alban ym 1886. Cymru oedd yn fuddugol a chafodd Hill y gapteniaeth ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1889 yn erbyn yr Alban. Collodd Cymru'r gêm a disodlwyd Hill ar gyfer gêm olaf y tymor i Iwerddon gan Daniel Griffiths. Adenillodd Hill ei safle a'i gapteniaeth yng ngêm gyntaf twrnamaint 1890, er iddo golli'r gêm oddi cartref i Loegr. Pan gafodd ei ail-ddewis ar gyfer gêm olaf y bencampwriaeth, pasiwyd y gapteniaeth i Arthur Gould.

Methodd Hill y ddau dwrnamaint nesaf, cyn chwarae twrnamaint cyfan 1893 a welodd Cymru yn ennill eu holl gemau i gipio'r Goron Driphlyg am y tro cyntaf. Y tymor nesaf oedd un olaf Hill fel chwaraewr rhyngwladol. Er mai dim ond un o'r tîm a enillodd y Goron Driphlyg y flwyddyn cynt cafodd ei gollwng, nid oedd y tîm yn gytûn. Syrthiodd Gould a Hill allan dros dactegau sgrymio yn erbyn Lloegr, gan beri i Hill weithio yn erbyn arweinydd pac ei hun, [6] Jim Hannan, gan arwain at fuddugoliaeth enfawr yn Lloegr. Roedd gêm olaf Hill yn golled i Iwerddon ym Melfast, lle cafodd Hill y gapteniaeth.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru [7]

Fel dyfarnwr[golygu | golygu cod]

Ym 1889 dyfarnodd Hill y cyfarfyddiad rhwng Prifysgol Rhydychen a Māoris Seland Newydd ar daith. [8]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Player – Frank Hill". CR Cerdydd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-13.
  2. "CARDIFF - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-11-18. Cyrchwyd 2021-05-13.
  3. "MARRIAGE OF MR FRANK HILL". Jones & Son - South Wales Echo. 1895-06-06. Cyrchwyd 2021-05-13.
  4. "Old Welsh Rugby Player's Death" Western Daily Press 25 Ebrill 1927 tud 9
  5. 5.0 5.1 "Mr Frank Hill - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-09-15. Cyrchwyd 2021-05-13.
  6. Griffiths (1987), tud 4:7.
  7. Smith (1980), tud 466.
  8. Maoris v. Oxford paperspast.natlib.govt.nz