Frances Hardcastle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Frances Hardcastle
Ganwyd 13 Awst 1866 Edit this on Wikidata
Writtle Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Rhagfyr 1941 Edit this on Wikidata (75 oed)
Stocksfield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth mathemategydd, swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist, swffragét a mathemategydd o Loegr oedd Frances Hardcastle (13 Awst 1866 - 26 Rhagfyr 1941). Yn 1894 roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Fathemateg America a'i harbennigedd oedd grŵp pwyntiau, rhan o fathemateg sy'n ymwneud â chymesuredd.[1][2][3]

Fe'i ganed ym mhentref Writtle ger Chelmsford, Essex ar 13 Awst 1866; bu farw yn Stocksfield, 10 milltir i'r dwyrain o Newcastle upon Tyne. Bar-gyfreithiwr oedd ei thad, Henry Hardcastle, ac roedd tad ei mam, John Herschel, yn seryddwr, yn fathemategydd ac yn gemegydd.[4][3]

Fe'i haddysgwyd yn Ngholeg Girton, Caergrawnt, lle cafodd radd B.Sc mewn mathemateg.[3]

Yn 1892 aeth i Brifysgol Chicago am gyfmod o flwyddyn, fel cymrawd er anrhydedd, yna treuliodd flwyddyn arall yng Ngholeg Bryn Mawr yn astudio o dan Charlotte Scott. Ym Mryn Mawr bu'n llywydd y Graduate Club, a chyfieithodd lyfr Felix Klein Ar Theori Riemann o Ffwythiannau Algebraidd ac Integrynnau (gw. integryn). Yn 1895 ailddechreuodd astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaergrawnt, ac o fewn ychydig flynyddoedd cyhoeddodd nifer o bapurau ar grwpiau pwyntiau.[3] Enillodd radd BA o Brifysgol Llundain ym 1903 a dyfarnodd Coleg y Drindod Dulyn MA (ad eundem) iddi yn 1905.

Hawliau merched[golygu | golygu cod y dudalen]

Cytunai Hardcastle gydag amcanion Cyngres Ryngwladol Menywod (International Congress of Women) a luniwyd yn Den Haag yn Ebrill 1915, sef:

  1. Y ceisir atebion heddychlon i anghytundebau rhyngwladol, rhwng gwledydd ac
  2. Y dylai menywod chwarae rhan hanfodol mewn materion mewnol gwledydd[5]

Hyd at 1909 hi oedd Ysgrifennydd Anrhydeddus Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau dros rhoi'r Bleidlais i Fenywod (the National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS)).[6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bulletin of the American Mathematical Society. Society. 1942. Cyrchwyd 19 October 2012.
  2. Patricia C. Kenschaft (2005). Change Is Possible: Stories of Women And Minorities in Mathematics. American Mathematical Society. p. 47. ISBN 978-0-8218-3748-1. Cyrchwyd 19 October 2012.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 M. Ogilvie (6 July 2000). The Biographical Dictionary of Women in Science: Pioneering Lives From Ancient Times to the Mid-20th Century. Taylor & Francis US. p. 555. ISBN 978-0-415-92038-4. Cyrchwyd 19 October 2012.
  4. Creese, Mary R. S.; Creese, Thomas M. (January 1998). Ladies in the laboratory?: American and British women in science, 1800–1900 : a survey of their contributions to research. Scarecrow Press. p. 195. ISBN 978-0-8108-3287-9. Cyrchwyd 19 October 2012.
  5. Oldfield, Sybil (7 January 1994). "England's Cassandras in World War One". This Working-Day World: Women's Lives And Culture(s) In Britain, 1914–1945. Taylor & Francis. pp. 92–94. ISBN 978-0-7484-0107-9. Cyrchwyd 19 October 2012.
  6. Elizab Crawford (22 January 2001). "National Union of Women's Suffrage Societies". Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866-1928. Routledge. pp. 436–442. ISBN 978-0-415-23926-4. Cyrchwyd 19 October 2012.