Florrie Evans

Oddi ar Wicipedia
Florrie Evans
Ganwyd15 Rhagfyr 1884 Edit this on Wikidata
Ceinewydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1967 Edit this on Wikidata
Ysbyty Glanelái Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpregethwr, cenhadwr Edit this on Wikidata

Diwygiwr a chenhades Cymreig oedd Annie Florence Evans a adnabyddir fel Florrie Evans (15 Rhagfyr 188411 Rhagfyr 1967), a gafodd y clod am gychwyn diwygiad Cymreig 1904–1905 .

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganed Evans yng Nghei Newydd i Margaret (ganwyd Jones) a David Owen Evans. Roedd ei thad yn forwyr a ddaeth yn gapten yn ddiweddarach. [1]

Un o arweinwyr amlwg y Diwygiad oedd pregethwr Methodistaidd Cei Newydd, a threfnodd Joseph Jenkins gynhadledd yng Nghei Newydd yn 1903 gyda'r thema o ddyfnhau teyrngarwch i Grist . Un bore Sul [2] yn Chwefror 1904 yn ystod un o gyfarfodydd y pregethwyr gwnaeth Evans ddatganiad syml: "Yr wyf fi'n caru Iesu Grist â'm holl galon!". Dywedwyd fod ei geiriau wedi gwneud argraff ar y cyfarfod ac mai dyma ddechrau diwygiad 1904.[1] Aeth aelodau ifanc o eglwys Joseph Jenkins, dan arweiniad Jenkins, i drefi a phentrefi eraill yn Nhe Ceredigion.[1][3]

Hyd at ddiwedd 1905 bu'n ymwneud â theithio i gefnogi'r diwygiad. Byddai’n teithio gyda Maud Davies oedd hefyd yn dod o Gei Newydd. Buont yn teithio ar hyd a lled Cymru, i Lundain ac roedd y daith olaf yng Ngogledd Cymru. Evans fyddai'n siarad â Maud Davies yn canu. [1]

Yn 1908 clywodd am adfywiad arall yn India ym Mryniau Khasis a gwnaeth gais i fod yn genhadwr gyda Chenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India. Derbyniwyd hi ac erbyn Nadolig 1908 [4] roedd wedi teithio ar yr SS City of Karachi i Sylhe. Cyflogwyd hi fel nyrs nes iddi fynd yn sâl y flwyddyn ganlynol. Adroddwyd bod anghydfod ac erbyn Medi 1911 roedd yn ôl yn ei thref enedigol.[1]

Bu farw Evans yn Ysbyty Glanely ar 11 Rhagfyr 1967.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "EVANS, ANNIE FLORENCE ('Florrie') (1884 - 1967), diwygwraig a chenhades". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 2022-09-04.
  2. Morgan, Robert J. (2008). My All in All: Daily Assurance of God's Grace (yn Saesneg). B&H Publishing Group. ISBN 978-0-8054-4663-0.
  3. "Welsh Churches". Church Growth Modelling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-04.
  4. Morris, John Hughes (1996). The History of the Welsh Calvinistic Methodists' Foreign Mission: To the End of the Year 1904 (yn Saesneg). Indus Publishing. t. 325. ISBN 978-81-7387-049-1.