Fjarðabyggð
![]() | |
![]() | |
Math | Cymunedau Gwlad yr Iâ ![]() |
---|---|
Prifddinas | Reyðarfjörður ![]() |
Poblogaeth | 5,262 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jóna Árný Þórðardóttir ![]() |
Gefeilldref/i | Stavanger, Jyväskylä, Gravelines, Bwrdeistref Enköping ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Islandeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Austurland ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Môr Norwy ![]() |
Yn ffinio gyda | Múlaþing ![]() |
Cyfesurynnau | 65.03333°N 14.21667°W, 65.0833°N 14°W ![]() |
IS-FJD ![]() | |
Pennaeth y Llywodraeth | Jóna Árný Þórðardóttir ![]() |
![]() | |

Bwrdeistref yn nwyrain Gwlad yr Iâ yw Fjarðabyggð. Fe'i lleolir yn Rhanbarth y Dwyrain, Austurland. Ei phoblogaeth ar 1 Ionawr 2017 oedd 4,691 a'i maint yn 1,164 km sgwâr.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y fwrdeistref yn 1998 gydag uno cyn fwrdeistrefi Eskifjörður, Neskaupstaður a Reyðarfjörður. Unwyd Austurbyggð, Fáskrúðsfjarðarhreppur a Mjóafjarðarhreppur fewn i Fjarðabyggð yn 2006.[1]
Y 'Pysgotwyr Ffrengig'
[golygu | golygu cod]
Roedd pentref Fáskrúðsfjörður yn ganolfan i bysgotwyr Ffrengig a ddaeth i bysgota yno rhwng 1880 a 1920, yn bennaf o Lydaw a'r ardaloedd sy'n ymestyn tuag at Ngwlad Belg, yn ystod tymor y gaeaf (gweler hefyd y nofel Pêcheur d'Islande gan Pierre Loti). Fodd bynnag, dim ond ychydig ohonynt a setlodd yn y pentref, aeth y rhan fwyaf ohonynt i weithio fel pysgotwyr allan yn y môr a chawsant eu hecsbloetio'n fawr. Daethon nhw ddim ond weithiau i ffeirio am tir neu os oeddent yn sâl neu'n cael eu hanafu> Dyna'r rheswm dros sefydlu'r ysbyty bach, y Franski spítalinn, a sefydlwyd iddynt, y mae ei weddillion ar y lan gyferbyn â'r lle.[2][3] Yn y cyfamser, daeth y tŷ sinc rhychog yn ôl i'r pentref a'i hadnewyddu. Mae'r Amgueddfa Ffrengig a'r enwau strydoedd dwyieithog yn gyffredinol (Gwlad yr Iâ, Ffrangeg) yn dyst i'r cyfnod hwn. Yn ogystal, mae pob blwyddyn cynhelir gŵyl y Franskir dagar (Dyddiau Ffrangeg) i gofio am yr hanes a'r cysylltiad.[4]
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Mae'r fwrdeistref yn cynnwys y pentrefi isod:
Rank | Pentref | Poblogaeth 2011 |
---|---|---|
1. | Neskaupstaður | 1,437 |
2. | Reyðarfjörður | 1,102 |
3. | Eskifjörður | 1,043 |
4. | Fáskrúðsfjörður | 662 |
5. | Stöðvarfjörður | 203 |
6. | Mjóifjörður | 35 |
Gefailldrefi
[golygu | golygu cod]Gravelines (Ffrainc; gefeillir mewn gwirionedd gyda Fáskrúðsfjörður)
Stavanger (Norwy; gefeillir mewn gwirionedd gyda Neskaupstaður)
Jyväskylä (Y Ffindir)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "SAGA FJARÐABYGGÐAR". www.fjardabyggd.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 23, 2013. Cyrchwyd 2016-06-18. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ bibliomonde.com Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Elín Pálmadóttir: "Les pêcheurs français en Islande"
- ↑ iceland.is Archifwyd 2011-06-22 yn y Peiriant Wayback Relations historiques France - Islande, Isl. Außenministerium (französisch); abgerufen 4. September 2012
- ↑ fjardabyggd.is Archifwyd 2011-03-20 yn y Peiriant Wayback Off. Webpräsenz (isländisch); abgerufen 4. September 2012