Firenza Guidi
| Firenza Guidi | |
|---|---|
| Ganwyd | Firenza Donatella Guidi Rhagfyr 1956 Milan, Yr Eidal |
| Dinasyddiaeth | Eidales |
| Alma mater | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
| Galwedigaeth | cyfarwyddydd |
| Cysylltir gyda | Syrcas NoFit State |
Cyfarwyddydd theatr a anwyd ym Milan yng Ngogledd yr Eidal ydi Firenza Guidi (ganwyd Rhagfyr 1956[1]). Bu'n weithgar iawn gyda cynyrchiadau theatr a syrcas yng Nghymru ynghanol y 1990au, ac wedi hynny. Bu'n gweithio fel Cyfarwyddydd Artistig i E.L.A.N (European Live Arts Network) yng Nghaerdydd ers iddi ei sefydlu ym 1989, er mwyn creu cydweithrediad rhwng artistiaid a pherfformwyr o bob cwr o Gymru, Ewrop a thu hwnt. Yng Nghymru, bu'n gweithio gyda Cwmni Theatr Gwynedd[2], Theatr Hijynx a Syrcas NoFit State.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei hyfforddi fel perfformwraig a chantores gan feistri cenedlaethol sy'n cynnwys Dario Fo, Philippe Gaulier, Ludwig Flaszen ac Ida Kelarova. Fe'i hyfforddwyd fel actores yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ble mae hi'n parhau i ddarlithio.[3]
Bu'n gyfarwyddydd gwadd gyda Chwmni Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng 2000 a 2002.[3]
Gwaith
[golygu | golygu cod](detholiad)
- Pwy sy'n Sâl? (1994) Cwmni Theatr Gwynedd
- Immortal (2004-2007) Syrcas NoFit State
- Tabu (2008-2010) Syrcas NoFit State
- Labyrinth (2011) Syrcas NoFit State
- Bianco (2012 - ) Syrcas NoFit State
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Firenza Donatella GUIDI personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-29.
- ↑ Rhaglen Pwy Sy'n Sâl?. Cwmni Theatr Gwynedd. 1994.
- 1 2 3 "Firenza Guidi | NoFit State Circus Archive". nofitstatearchive.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-29.