Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd
Enghraifft o'r canlynol | dogfen |
---|---|
Awdur | Cymanfa Westminster |
Rhan o | Westminster Standards |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dogfen a luniwyd gan Gymanfa Westminster sydd yn ymdrin â llywodraeth Bresbyteraidd yw Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd (Saesneg: The Form of Presbyterial Church Government). Rhan o Safonau Westminster ydyw ac fe'i mabwysiadwyd gan Eglwys yr Alban ym 1645.
Cynnwys[golygu | golygu cod]
Swyddogion yr eglwys[golygu | golygu cod]
Mae Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd yn disgrifio pedwar math o swyddog: gweinidogion/bugeiliaid, athrawon/doethuriaid, henduriaid a diaconiaid.
"Gweinidog yr Efengyl" yw bugail, ac un sydd "yn rhagori'n fwy wrth eglurhau'r Ysgrythurau, wrth ddysgu athrawiaeth iachus ac wrth argyhoeddi gwadwyr nac y mae wrth weithredu". Athrawon diwinyddol yw'r doethuriaid yn y bôn, "o ddefnydd ardderchocaf mewn ysgolion a phrifysgolion". Mae'r henadur yn wahanol i'r gweinidog ac mae ganddo ran yn llwywodraeth yr eglwys. Dylai'r diacon "ofalu'n arbennig wrth rannu'r hyn sydd ei angen â'r tlodion".
Strwythur yr eglwys[golygu | golygu cod]
Disgrifia Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd sut y dylid rhannu'r Eglwys yn gynulleidfaoedd, fel arfer "fesul ffiniau priodol eu cartrefi". Dylai fod o leiaf un gweinidog i bob cynulleidfa yn ogystal ag eraill i lywodraethu. Dylai'r rhai hyn gyfarfod yn gyson a'r gweinidog yn "gymedrolwr" y cyfarfodydd. Enwir hyn yn "gynulliad cynulleidfaol".
Hefyd, mae'r Ffurf yn dadlau dros gorff o'r enw'r "henaduriaeth" neu'r "cynulliad clasurol", a ddylai gynnwys weinidogion a henaduriaid a goruchwylio nifer o gynulleidfaoedd.
Y "cynulliad synodol" yw'r tryddydd math o gynlliad, sydd uwchben lefel yr henaduriaeth.
Ordeinio[golygu | golygu cod]
Mae rhan olaf y ddogfen yn disgrifio sut y dylai'r henduriaeth ordeinio gweinidogion. Mae'n pennu oedran isaf gweinidogion yn 24 ac yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o bwyntiau y dylid arholi ymgeisydd arnynt.
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- The Form of Presbyterial Church Government Archifwyd 2019-04-06 yn y Peiriant Wayback.