Ffrwydriad Tunguska

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydriad Tunguska
Enghraifft o'r canlynolffrwydrad Edit this on Wikidata
Dyddiad30 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
Dyddiad darganfod30 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
LleoliadEvenk Autonomous Okrug Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Digwyddodd Ffrwydriad Tunguska ar 30 Mehefin 1908 am 07:14 y bore mewn ardal wledig anghyfanedd ger Afon Podkamennaya Tunguska (sydd yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk erbyn hyn) yng ngogledd Siberia, Rwsia.

Roedd rhywbeth wedi ffrwydro ryw dair milltir uwchben y tir gan achosi i 80 miliwn o goed ddisgyn dros 830 milltir sgwar. Roedd y ffrwydriad 1000 gwaith yn gryfach na bom Hiroshima a gafodd ei ollwng ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, a thua treuan o bŵer Tsar Bomba, yr arf niwcliar mwyaf pwerus erioed. Er bod meteor neu gomed wedi ffrwydro yn yr awyr yn hytrach na tharo'r llawr, mae'r digwyddiad hwn dal yn cael ei ddisgrifio fel 'trawiad'. Gallai ffrwydriad o'r fath achosi difrod llethol i ddinas fawr.

Roedd yr ffrwydriad mor gryf buasai wedi mesur 5.0 a'r raddfa uchder Richter. Yn ôl The Guiness Book of World Records (1966) dywedir oni bai bod y byd yn troi ar yr raddfa y mae byddai'r ffrwydriad wedi dinistrio prifddinas Rwsia ar yr pryd, sef Saint Petersburg.

Does neb yn gwybod beth ddigwyddodd yn union.