Ffrwydradau Beirut 4 Awst 2020

Oddi ar Wicipedia
Ar ôl y ffrwydradau
Amser18:08:18 EEST (15:08:18 UTC)
Dyddiad4 Awst 2020 (2020-08-04)
AnafiadauO leiaf 6500

Ar 4 Awst 2020 roedd dau ffrwydrad enfawr yn Beirut, prifddinas Libanus.[1][2][3] Lladdwyd o leiaf 207 o bobl ac roedd 110 o bobl ar goll.[4][5][6] Teimlwyd effeithiau'r ffrwydrad mor bell i ffwrdd â Chyprus.[7] Dinistriwyd llawer o adeiladau, gan gynnwys tri ysbyty. Ymhlith y meirw roedd Nazar Najarian, dyn busnes a gwleidydd, ysgrifennydd y blaid Kataeb.

Roedd tua 2,750 tunnell o amoniwm nitrad wedi ei storio mewn warws ym mhorthladd Beirut. Roedd wedi bod yno ers chwe mlynedd, heb ei storio'n ddiogel, wedi iddo gael ei gymryd oddi ar long yr MV Rhosus. Cychwynodd tân yn yr un adeilad yn y prynhawn a fe aeth ymladdwyr tân yno i geisio ei ddiffodd. Tua 18:07 amser lleol (15:07 UTC) cafwyd y ffrwydrad cyntaf wrth i storfa o dân gwyllt ei danio. O fewn 35 eiliad cafwyd ail ffrwydrad anferth wrth i'r amoniwm nitrad gynnau. Cododd cwmwl mawr oren-goch a cwmwl gwyn anwedd wrth i'r siocdon deithio drwy'r awyr.

Dymchwelodd y ffrwydradau lawer o'r porthladd a difrodi adeiladau. Achosodd i gwmwl enfawr godi uwchben y ddinas.[4]

Ar ôl y ddamwain, bu llawer o brotestiadau yn arwain at Weinidog Libanus, Hassan Diab, yn ymddiswyddo ar 10 Awst 2020.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Massive explosion shakes Lebanese capital, buildings near Beirut port reportedly damaged". Haaretz (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Awst 2020.
  2. "Massive explosion shakes Lebanon's capital Beirut". San Francisco Chronicle (yn Saesneg). 4 Awst 2020. Cyrchwyd 4 Awst 2020.[dolen marw]
  3. Hubbard, Ben (4 Awst 2020). "Explosions Rock East Beirut". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 4 Awst 2020.
  4. 4.0 4.1 "Llawer o anafiadau a difrod eang mewn ffrwydrad enfawr yn Beirut". Golwg360. Cyrchwyd 5 Awst 2020.
  5. "At least 10 people killed in Beirut explosion, say Lebanese security and medical sources". Reuters. 4 Awst 2020. Cyrchwyd 4 Awst 2020.
  6. Holmes, Oliver; Beaumont, Peter; Safi, Michael; Chulov, Martin (4 Awst 2020). "Beirut explosion: dead and wounded among 'hundreds of casualties', says Lebanon Red Cross – live updates" – drwy www.theguardian.com.
  7. "Beirut yn cyfri'r gost ar ddechrau tridiau o alaru wedi ffrwydrad sylweddol". Golwg360. 5 Awst 2020.
  8. "Gweinidog Libanus yn ymddiswyddo yn dilyn ffrwydrad Beirut". golwg360. Cyrchwyd 26 Awst 2020.