Ffordd y Môr, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffordd y Môr, o'r orsaf wrth edrych am y môr
Ffordd y Môr wedi 'hollt' Rhodfa'r Gogledd

Mae Ffordd y Môr (Saesneg: Terrace Road) yn un o brif strydoedd masnachol Aberystwyth.

Mae'n rhedeg bron yn unionsyth o du allan i orsaf Aberystwyth i'r môr. Mae sawl stryd arall yn torri ar draws Ffordd y Môr o'r dwyrain i'r gorllewin gan gynnwys, Rhodfa'r Gogledd a Stryd Portland.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwir Ffordd y Môr, neu'n hytrach "Terrace Road" yn 1834[1]. Y pryd hynny, rhanwyd y ffordd yn Terrace Road (North) a Terrace Road (South). Nodir yn 1889 i Terrace Road (South) gael ei henwi'n Mary's St ond newidiwyd hi nôl i Terrace Road erbyn 1905.

Adnabwyd yr ardal gwastad wrth droed allt y Stryd Fawr a tu hwnt i hen ffiniau Oesoedd Canol y dref yn Morfa Swnd ac arferai fod yn rhan o dir comin y dref. Ond erbyn y 19g roedd pwysau mawr ar Gorfforaeth Aberystwyth o du stadau teuluoedd Powell o Nanteos a Pryse o Gogerddan i wethu'r tir a'i ddatblygu ar gyfer aneddau a masnach.[2]. Yn ôl adroddiad Llys Lît Aberystwyth, 1813, "We the jury direct that part of the waste land called Morfa Swnd be mapped and divided into convenient plots for buildings."[3]

Datblygwyd Ffordd y Môr a Ffordd Alexandra (Alexandra Rd) gyda dyfodiad y rheilffordd i'r dref yn yr 1860au. Gyda dyfodiad y rheilffordd, symudodd calon masnachol y dref tuag at Ffordd y Môr a gwelwyd adeiladu adeiladau newydd pwrpasol fel Banc Barclays, corneli strydoedd Ffordd Alexandra, Cambrian Place, Sgwâr Glyn Dŵr/Rhodfa'r Gogledd gyda phensaerniaeth hyderus a phwrpsol.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o sefydliadau masnachol pwysicaf Aberystwyth a'r cylch ar hyd Ffordd y Môr. Yn ei mysg mae:

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwefan Cyngor Tref Aberystwyth

Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

[1] Aberystwyth: Understanding Urban Character, cyhoeddwyd gan CADW

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/aberystwyth_street_names_table_for_website.pdf
  2. http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf
  3. http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf dyfyniad yn yr erthygl o lyfr Goerge Eyre Evans, Aberystwyth and its Court Leet (Aberystwyth, 1902).