Fflodiart

Oddi ar Wicipedia
Fflodiardau yn Tokyo sydd wedi'u creu i warchod rhag ymchwyddiadau gyrwyntoedd

Mae fflodiart (hefyd fflodiat, fflodiard neu fflodiad) neu lifddor, yn ddor sy'n cael ei ddefnyddioi reoli llif dwr mewn muriau llifogydd, cronfeydd, afonydd, nentydd neu systemau llifgloddiau. Gallant gael eu dylunio i osod uchder brig gorlifannau ar gyfer argaeau, i addasu graddfa llif mewn llifddorau a chamlesi, neu gallant gael eu dylunio i atal llif dwr yn gyfan gwbl fel rhan o lifglawdd neu system ymchwydd storm. Gan fod y rhan fwyaf o'r dyfeisiadau hyn yn gweithio trwy reoli lefel arwyneb y dwr sy'n cael ei storio neu gyfeirio, maent hefyd yn cael eu galw yn gatiau brig. Yn achos systemau osgoi llifogydd, mae fflodiartau weithiau yn cael eu defnyddio i ostwng lefelau dwr mewn prif afon neu sianeli camlas trwy ganiatau i ragor o ddwr lifo i mewn i ddargyfeiriad llifogydd neu fasn cadw pan mae'r brif afon neu gamlas yn agosau at orlifo.

Ceir yr enghreifftiau cynharaf o wahanol ffurfiau o'r gair yn cael eu defnyddio yn y 15fed ac 16g.