Neidio i'r cynnwys

Ffilm ym Mwrcina Ffaso

Oddi ar Wicipedia
Ffilm ym Mwrcina Ffaso
Pencadlys yr ŵyl ffilm FESPACO yn Ouagadougou.
Enghraifft o:byd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
Mathcinema Edit this on Wikidata
LleoliadBwrcina Ffaso Edit this on Wikidata
GwladwriaethBwrcina Ffaso Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Er ei bod yn wlad dlawd a chymharol fechan, mae gan Bwrcina Ffaso un o'r diwydianau ffilm mwyaf a phwysicaf yn Affrica. Mae prifddinas y wlad, Ouagadougou, yn gartref i'r Ŵyl Ffilm a Theledu Ban-Affricanaidd (FESPACO) a gynhelir bob dwy flynedd ers 1969. Mae rhai wedi rhoi'r enw "Ouagawood",[1] neu "Hollywood Affrica",[2] ar ddiwydiant ffilm Bwrcina Ffaso. Ers 1986, er gwaethaf trafferthion ariannu a dosbarthu, mae Bwrcina Ffaso wedi cynhyrchu tua dwy ffilm hir bob blwyddyn.[2]

Un o brif gyfarwyddwyr y wlad oedd Idrissa Ouédraogo (1954–2018), a fyddai'n aml yn ymdrin â'r gwrthdaro rhwng y ddinas a chefn gwlad, a rhwng traddodiad a modernedd, yn ei waith. Enillodd ei ffilm ddrama Tilaï (1990) y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Cyfarwyddodd ffilmiau megis Tilaï a Samba Traoré (1993) yn ei famiaith, Mòoré, yn ogystal â lluniau Ffrangeg (Le Cri du cœur, 1994) a Saesneg (Kini and Adams, 1997). Enw mawr arall yn sinema Bwrcina Ffaso yw Gaston Kaboré (g. 1951), cyfarwyddwr Wend Kuuni (1982), Zan Boko (1988), a Buud Yam (1997). Sefydlodd Kaboré ysgol o'r enw "l’institut Imagine" i hyfforddi gwneuthurwyr ffilm ifanc.[3] Cyfarwyddwr toreithiog, amrywiol, ac amlieithog ydy Dani Kouyaté (g. 1961), sydd yn tynnu ar draddodiadau llafar Gorllewin Affrica yn ei waith. Mae Kouyaté wedi cyfarwyddo Keïta! l'Héritage du griot (1995), addasiad Jula a Ffrangeg o arwrgerdd Sundiata o Ymerodraeth Mali; Sia, le rêve du python (2001), ffilm ffantasi yn yr iaith Bambara yn seiliedig ar fytholeg Ymerodraeth Ghana; y gomedi Ffrangeg Ouaga-Saga (2004); a'r ffilm daith Soleils (2013).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Ffrangeg) "BBC Afrique en direct au FESPACO", BBC (2003). Adalwyd ar 1 Chwefror 2025.
  2. 2.0 2.1 Lawrence Rupley, Lamissa Bangali a Boureima Diamitani, Historical Dictionary of Burkina Faso 3ydd argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 38.
  3. (Saesneg) "Burkina Faso gets new film school", BBC (1 Mawrth 2005). Adalwyd ar 1 Chwefror 2025.