Ffilm ym Mharagwái
Enghraifft o: | byd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth ![]() |
---|---|
Lleoliad | Paragwái ![]() |
Gwladwriaeth | Paragwái ![]() |
![]() |
Mae diwydiant ffilm Paragwái yn fach o gymharu â'r mwyafrif o wledydd eraill yn Ne America, ac yn hanesyddol bu'n ddibynnol ar gyllid a chyfarwyddwyr o'r Ariannin. Fodd bynnag, mae gan fyd y sinema hanes hir yn y wlad, ac mae'r nifer o ffilmiau a gynhyrchwyd wedi cynyddu yn ddiweddar. Prif ieithoedd sinematig Paragwái yw Sbaeneg a Guaraní, ac mae nifer o ffilmiau yn cynnwys deialog yn y ddwy iaith, gan adlewyrchu'r sefyllfa gymdeithasol ddwyieithog y wlad.
Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Dygwyd lluniau symudol i Baragwái ar 2 Mehefin 1900, pan dangoswyd saith ffilm fer o'r Ariannin yn y Theatr Genedlaethol yn y brifddinas Asunción. Cyfarwyddodd yr Archentwr Ernesto Gunche gyfes o ffilmiau pum-munud ym 1905, y lluniau cyntaf i'w ffilmio ym Mharagwái, gan gynnwys golygfeydd o fasnach canol y ddinas, gorymdaith o ddiffoddwyr tân, a gorymdaith grefyddol gyda'r Arlywydd Cecilio Báez. Ym 1917, ffilmiodd y cennad o'r Alban W. Barbrooke Grubb lun ddogfen, Los Lenguas, la primera tribú evangelizada del Chaco, yng ngorsaf Cymdeithas Genhadol De America yn Makthlawaiya, yn ardal y Chaco.[1]
Agorwyd y sinema fasnachol gyntaf, Cine Cañisá, ym 1925 yn Trinidad, un o gymdogaethau Asuncíon. Hon hefyd oedd y flwyddyn a welodd y cynhyrchiad gwir Baragwaiaidd cyntaf: Alma Paraguaya (1925), ffilm fud 10-munud gan Hipólito Carrón am Forwyn Caacupé. Ymddengys Juan Sinforiano Bogarín, Archesgob Catholig cyntaf y wlad, yn y ffilm hon. Cynhyrchodd Carrón ffilm am drowynt yn Encarnación ym 1926, a dangoswyd yr honno mewn gorsafoedd ar hyd y rheilffordd i godi arian ar gyfer y rhai a ddioddefodd. Ym 1926 hefyd dangosodd Robert de Wavrin, fforiwr o Wlad Belg, sawl ffilm ddogfen am ei deithiau i Baragwái i gynulleidfaoedd ym Mharis. Mae'r rheiny—In the Heart of South America, among the Indian Sorcerers, The Yguazú Waterfalls, a The Indians of the Gran Chaco—bellach wedi eu colli. Yn ogystal â ffilmiau dogfen natur a theithluniau, cynhyrchwyd sawl ffilm ddogfen gyfoes am Ryfel y Chaco (1932–35). Y ffilm fawr gyntaf o'r wlad oedd Paraguay, tierra de promisión (1937), a gyfarwyddwyd gan yr Almaenwr James Bauer. Un o'r lluniau enwocaf am Ryfel y Chaco oedd En el infierno del Chaco (1938), gan yr Archentwr Roque Funes, sy'n cynnwys ffilm o arwyddo'r cytundeb heddwch.[1]
Datblygiad y diwydiant ffilm
[golygu | golygu cod]Dechreuodd diwydiant ffilm go iawn ym Mharagwái yng nghanol yr 20g, a dylanwadwyd yn gryf ar ei ddatblygiad gan yr Ariannin. Yn sgil dyfodiad y lluniau sain, y 1930au a'r 1940au oedd oes euraid sinema'r Ariannin, gan ddyrchafu'r wlad honno yn brif gynhyrchydd ffilmiau America Ladin. O'r cychwyn, felly, siapwyd ffilm ym Mharagwái gan arferion a thueddiadau sinema America Ladin yn gyffredinol a sinema'r Ariannin yn benodol. Fodd bynnag, er Sbaeneg oedd iaith drechaf y sgrin fawr yn America Ladin, bu rhywfaint o Guaraní i glywed yn y cyfnod hwn, gan roi blas Paragwaiaidd unigryw i sawl ffilm. Nodweddir y 1950au a'r 1960au gan gyd-gynyrchiadau rhwng gwmnïau a chelfyddydwyr o'r Ariannin a Pharagwái.
Y llun mawr Paragwaiaidd cyntaf gyda sain oedd Codicia (1955), ffilm ddrama ddu-a-gwyn gan yr Eidalwr-Archentwr Catrano Catrani, a gafodd ei ffilmio yn Nhalaith Misiones yng ngogledd-ddwyrain yr Ariannin ac yn ninas San Antonio ym Mharagwái. Mae'n serennu actorion o Baragwái yn bennaf, ac yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Baragwái. Drama arall yw El trueno entre las hojas (1957), a gyfarwyddwyd gan yr Archentwr Armando Bó ac yn serennu Bó ac Isabel Sarli, ac wedi ei ffilmio ym mhentref José Fassardi. Mewn un olygfa mae Sarli yn ymolchi mewn llyn, ac hon oedd y ffilm gyntaf yn America Ladin oll i ddangos merch yn noeth llwyr. Bu'r ffilm felly yn ddadleuol yn ei dydd, ond yn hynod o lwyddiannus. Drama hanesyddol am Ryfel y Gynghrair Driphlyg ydy La sangre y la semilla (1959), sy'n serennu'r Archentwraig Olga Zubarry a'r Paragwaiad Ernesto Báez, ac wedi ei sgriptio gan y llenor nodedig Augusto Roa Bastos yn seiliedig ar nofel gan Mario Halley Mora. Llun arall gyda Armand Bó ac Isabel Sarli ac wedi ei gyd-gynhyrchu gan y ddwy wlad yw La burrerita de Ypacaraí (1962), drama wedi ei ffilmio mewn du-a-gwyn ac mewn lliw yn Ypacaraí ac Asunción.
El Stronato
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Stronato—unbennaeth Alfredo Stroessner (1954–89)—dirywiodd y diwydiant ffilm o ganlyniad i ddiffyg cyllid a gormes sensoriaeth. Cafodd clybiau ffilmiau a gwneuthurwyr annibynnol eu hystyried yn wleidyddol danseiliol. Fodd bynnag, ffilm nodedig o'r cyfnod hwn yw El Pueblo (1971) gan y cyfarwyddwr annibynnol Carlos Saguier. Y ffilm gyntaf a gynhyrchwyd gan Baragwái yn unig, heb gyfraniadau o'r Ariannin nac unrhyw wlad arall, oedd Cerro Corá (1978), epig am Ryfel y Gynghrair Driphlyg a gyfarwyddwyd gan Guillermo Vera. Cyllidwyd y cynhyrchiad hwn gan lywodraeth Stroessner, a chafodd ei ddefnyddio fel propaganda.[1]
Y sinema fodern
[golygu | golygu cod]Blodeuai'r diwydiant ffilm yn sgil cwymp Stroessner. Sefydlwyd y Fundación Cinemateca del Paraguay a Gŵyl Ffilm Asunción ym 1990. Cafwyd rhywfaint o sylw rhyngwladol yn y 1990au gyda'r ffilmiau Miss Ameriguá (1994) ac El toque del oboe (1998). Llwyddiant sylweddol oedd y ddrama ramantus María Escobar (2002), a ysbrydolwyd gan gân werin enwog y bardd a cherddor Emiliano R. Fernandez. Y ffilm Baragwaiaidd gyntaf i'w dangos yng Ngŵyl Cannes oedd Hamaca paraguaya (2006), drama gyda'i holl ddeialog yn Guaraní, a gyfarwyddwyd gan Paz Encina. Enillodd y ffilm gyffro 7 cajas (2012), a gyfarwyddwyd gan Juan Carlos Maneglia a Tana Schémbori, yr elw crynswth mwyaf erioed ym Mharagwái.[1]