Ffenestri (band)
Gwedd
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Label recordio | Fflach |
| Dechrau/Sefydlu | 1984 |
| Genre | synthpop |
| Yn cynnwys | Martyn Geraint |
| Dynodwyr | |


Band synthpop Cymreig o'r 1980au oedd Ffenestri. Aelodau'r band oedd Martyn Geraint a Geraint James. Rhyddhaodd y band un albwm, Y Tymhorau ar label Fflach.
Fe ganodd Ffenestri mewn dros gant o gyngherddau dros Gymru rhwng 1984 a 1988. Chwaraeodd y band eu gig olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988. Ailffurfiodd y band yng Ngorffennaf 2017 i chwarae yn "Gŵyl Arall" yng Nghaernarfon.
Aeth Martyn Geraint ymlaen i fod yn actor a chyflwynydd teledu plant ar S4C. Dechreuodd Geraint James yrfa fel cyfrifydd yn 1989.[1]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Tymhorau (Recordiau Fflach, RH 001, 1985)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Oes y Cyfrifiaduron. Daflog (30 Awst 2011). Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.