Ffeministiaeth ryddfrydol

Oddi ar Wicipedia

Mudiad ffeministaidd yw ffeministiaeth ryddfrydol sydd yn seiliedig ar y rhagosodiad taw cyfleoedd anghyfartal ac arwahanu ar sail rhyw neu rywedd sydd ar fai am safle eilradd y fenyw mewn cymdeithas. Dadleuir felly, gan dynnu ar ideoleg wleidyddol rhyddfrydiaeth, y dylai pob unigolyn sy'n ffurfio'r gymdeithas feddu ar yr un hawliau. Mae ffeministiaid rhyddfrydol yn ymgyrchu drwy dactegau cymathiadol, gan weithio o fewn y strwythurau cymdeithasol sydd ohoni ac hyrwyddo achos cydraddoldeb yn heddychlon.[1] Cyferbynnir ffeministiaeth ryddfrydol â ffeministiaeth radicalaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kristina B. Wolff, "Liberal feminism" yn The Concise Encyclopedia of Sociology, golygwyd gan George Ritzer a J. Michael Ryan (Caerfuddai: Wiley-Blackwell, 2011), tt. 354–55.