Fernando Alegría

Oddi ar Wicipedia
Fernando Alegría
Ganwyd26 Medi 1918 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
o methiant yr arennau Edit this on Wikidata
Walnut Creek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swydddiplomydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullbarddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata
MudiadGeneration of '38 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Atenea Edit this on Wikidata

Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, ac academydd Tsileaidd oedd Fernando Alegría (26 Medi 191829 Hydref 2005).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Fernando Alegría ar 26 Medi 1918 yn Santiago de Chile. Astudiodd ym Mhrifysgol Tsile, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Califfornia, Berkeley yn 1947.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Cyhoedodd ei nofel gyntaf, Recabarren, yn 1938. Ymhlith ei nofelau eraill mae Coral de guerra (1979), El paso de los gansos (1980), a La rebelión de los placeres (1990).[1]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Addysgodd yn Berkeley nes iddo symud i Brifysgol Stanford yn 1967, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1988, pryd cafodd ei benodi'n athro emeritws.

Er iddo ymsefydlu yng Nghaliffornia, cadwodd Alegría ei gysylltiadau â'i famwlad a bu'n teithio i Tsile pob blwyddyn. Yn sgil etholiad ei hen gyfaill Salvador Allende yn arlywydd y wlad yn 1970, penodwyd Alegría yn swyddog diwylliannol. Wedi'r coup d'état yn 1973, diddymwyd ei basport gan y llywodraeth filwrol a ni chafodd Alegría yr hawl i ddychwelyd i Tsile nes 1986. Fe sefydlodd gylchgrawn llenyddol ar gyfer ei gyd-Tsileaid alltud.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd â Carmen Letona Meléndez, myfyrwraig meddygaeth o El Salfador, yn 1943 a chawsant dwy ferch a dau fab. Bu farw Carmen yn 1994.[2]

Bu farw Alegría yn ei gartref yn Walnut Creek, ger Oakland, ar 29 Hydref 2005 o fethiant yr aren, yn 87 oed.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lucía Guerra, "Alegría, Fernando" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 9.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Tyche Hendricks, "Fernando Alegría -- scholar of Latin American authors", SFGate (20 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 19 Awst 2019.
  3. (Saesneg) Mary Rourke, "Fernando Alegria, 87, Chilean Exile Raised the Profile of Latin Writers", Los Angeles Times (23 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 19 Awst 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Moraima de Semprún Donahue, Figuras y contrafiguras en la poesía de Fernando Alegría (Pittsburgh: Latin American Literary Review Press, 1981).