Ferhat Abbas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ferhat Abbas

Roedd Ferhat Abbas, (24 Awst 1899 - 24 Rhagfyr 1989), yn arweinydd cenedlaetholdeb Algeriaidd a ddaeth yn aelod gweithgar o Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol Algeria (FLN)[1].

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Abbas yn Taher, Algeria yn fab i Ben Ahmed Abbas, gwas sifil Mwslimaidd, a Achoura (née Maza), ei wraig.

Mynychodd ysgolion Ffrangeg yn Philipeville, Constantine (Skikda, bellach) cyn astudio ym Mhrifysgol Alger.

Wedi cyfnod o wasanaeth gorfodol ym myddin Ffrainc aeth i weithio fel fferyllydd yn Sétif.

Priododd Marcelle Stöetzel, 17 Medi, 1945 bu iddynt un mab 

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Abbas i chwarae rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth yn 1938, pan helpodd i drefnu'r Union Populaire Algérienne (Undeb Pobl Algeriaidd), sefydliad a oedd yn argymell hawliau cyfartal i'r Algeriaid a'r Ffrancwod o dan reolaeth gwladychol Ffrengig ynghyd â chynnal a chadw iaith a diwylliant Algeria.

Ar doriad yr Ail Ryfel Byd ail ymunodd Abbas a’r Fyddin Ffrengig[2]. Bu ei brofiad yn y rhyfel yn foddion iddo galedu ei wleidyddiaeth genedlaetholgar gan nad oedd y Cadfridog Henri Giraud yn fodlon i filwyr o drefedigaethau Mwslimaidd ymladd fel cydraddolion a milwyr o Ffrainc.

Ym 1943 cyhoeddodd 'Maniffesto'r Bobl Algeriaidd', gan alw am ymreolaeth i Algeria. Yn y flwyddyn ganlynol sefydlodd yr Amis du Manifeste et de la Liberté (Ffrindiau'r Maniffesto a Rhyddid) a oedd am fynd cam ymhellach na’r Maniffesto gwreiddiol gan mynnu annibyniaeth i Algeria; am hyn cafodd ei ddedfrydu i gyfnod o garchar. Ym 1946 sefydlodd ac arweiniodd Democratique du Manifeste Algérien (Undeb Democrataidd y Maniffesto Algeriaidd). Ym 1946 fe’i hetholwyd i Gynulliad Cyfansoddol Ffrainc[3] ac i Gynulliad Algeria. Am y naw mlynedd nesaf, ceisiodd gydweithio â'r Ffrancwyr i sefydlu gwladwriaeth Algeriaidd, er hynn cafodd ei garcharu ddwywaith eto 

Ymuno a’r FLN[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan ei fod yn gwrthwynebu trais ni fu’n chware rhan weithredol ar gychwyn rhyfel annibyniaeth Algeria a ddechreuodd ym 1954 gan geisio gweithredu fel cymodwr rhwng y ddwy ochr. Methodd ei ymdrechion wrth i Ffrainc dwysau’r rhyfel yn 1956. Gan anobaith am unrhyw gynnydd, ymunodd â Front de Libération Nationale (FLN) yn y gobaith o sicrhau annibyniaeth Algeria trwy ddulliau chwyldro.

Defnyddiwyd ei sgiliau diplomyddol gan y FLN, gan gael ei danfon ar ymweliadau trwy America Ladin, Ewrop a'r Dwyrain Canol i geisio ennill cefnogaeth i’r achos. Yn 1957 fe’i penodwyd yn gynrychiolydd y FLN i'r Cenhedloedd Unedig. Ym 1958 fe'i mynychodd Cynhadledd Gogledd Affrica yn Tunis, ac ym mis Mawrth gwnaeth apêl i'r Fatican am gymorth i greu heddwch.

Ym mis Medi 1958, sefydlwyd Llywodraeth Dros Dro Gweriniaeth Algeriaidd (GPRA) a chafodd Abbas ei benodi’n llywydd arni.

Ar Awst 27, 1961, ymddiswyddodd o’r llywyddiaeth ac etholwyd Benyoucef Ben Khedda yn ei le. Ymunodd â Ahmed Ben Bella a Houari Boumédiène i ffurfio Grŵp Tlemcen mewn gwrthwynebiad i’r GPRA.

Enillodd Algeria annibyniaeth ar 5 Gorffennaf, 1962, ac o Fedi 25, 1962 i Fedi 15, 1963 gwasanaethodd Abbas fel llywydd y Cynulliad Cyfansoddiadol, ymddiswyddodd o’r llywyddiaeth mewn protest at y ffaith bod Ben Bella ac aelodau blaenllaw eraill yr FLN yn anwybyddu’r cynulliad wrth greu cyfansoddiad i’r wladwriaeth newydd. Cafodd ei ddiarddel o’r FLN a’i osod dan garchariad yn ei dŷ gan Ben Bella rhwng 1964 a 1965. Cafodd ei garcharu yn ei dŷ eto rhwng 1976 1 1979 am wrthwynebu llywodraeth filwrol yr arlywydd Houari Boumédiènne. 

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Abbas yn ei gwsg ar y 24ain o Ragfyr 1985[4]. Fe'i claddwyd ym Mynwent El Alia. 

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Abbas nifer o lyfrau, gan gynnwys

  • Le Jeune Algérien (1931)
  • La Nuit Colonial (1963),
  • Autopsle d'une guerre (1980)
  • L'indépendance confisquée (1984).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]