Felisberto Hernández

Oddi ar Wicipedia
Felisberto Hernández
GanwydFeliciano Felisberto Hernández Silvano Edit this on Wikidata
20 Hydref 1902 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, pianydd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Daisy Dolls Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.felisberto.org.uy Edit this on Wikidata

Llenor straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Felisberto Hernández (20 Hydref 190213 Ionawr 1964) sy'n nodedig am ei ffuglen ffantasi ryfedd, sy'n rhagflaenu realaeth hudol, ac sy'n cynnwys cymeriadau gorffwyll ac obsesiynol. Roedd hefyd yn bianydd ac mae themâu cerddorol yn bresennol mewn nifer o'i straeon.[1] Gan fod ei enw cyntaf yn fwy cyffredin na'i gyfenw, fe'i gelwir yn aml yn Felisberto.[2]

Ganwyd Felisberto ym Montevideo i deulu tlawd. Dysgodd sut i ganu'r piano yn ei arddegau a pherfformiodd mewn sinemâu yn ystod oes y ffilmiau mud. Yn ddiweddarach yn ei oes cafodd swydd lywodraethol yn gwrando ar ganeuon tango ar y radio, i wirio'r broses o gasglu ffïoedd hawlfraint.[3]

Yng nghyfnod boreuol ei yrfa lenyddol, o 1925 i 1931, cyhoeddodd Felisberto bedair cyfrol o straeon sy'n datblygu'r themâu a'r technegau sy'n nodweddiadol o'i waith. Nodweddir ei straeon cynnar, er enghraifft Libro sin tapas (1929) a La envenenada (1931), gan ddigrifwch, craffter yr awdur, a brwdfrydedd yr elfennau ffantasi. Ni chafodd fawr o lwyddiant nes y straeon hir Por los tiempos de Clemente Colling (1942) a Nadie encendía las lámparas (1947). Yn ei gasgliad La casa inundada (1960) gwelir uchafbwynt ei ddull adroddiant deuol, sy'n dibynnu ar gof a ffantasi.[1] Yn ôl nifer o feirniaid, ei gampwaith ydy'r stori Las hortensias, am ddyn sy'n gosod doliau mewn ystumiau pornograffig.

Denodd Felisberto sylw awduron eraill yn hytrach na'r cyhoedd darllengar, ac ymhlith ei edmygwyr mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar, ac Italo Calvino.[3] Bu farw ym Montevideo yn 61 oed.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • La cara de Ana (Mercedes: cyhoeddwr dienw, 1930).
  • Por los tiempos de Clemente Colling (Montevideo: Ganzález l'Anizza, 1942).
  • El caballo perdido (Montevideo: Ediciones del Río de La Plata, 1943).
  • Nadie encendía las lámparas (Buenos Aires: Editorial Sudamericana, 1947).
  • La casa inundada, cuentos (Montevideo: Editorial Alfa, 1960).
  • Tierras de la memoria (Montevideo: Arca, 1965).
  • Las hortensias (Barcelona: Editorial Lumen, 1974).
  • El caballo perdido y otros cuentos (Buenos Aires: Calicanto Editorial, 1976).
  • Obras completas de Felisberto Hernádez, tair cyfrol (Dinas Mecsico: Siglo Veintiuno Editores, 1983).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) William H. Katra, "Hernández, Felisberto (1902–1964)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 24 Mai 2019.
  2. (Saesneg) Felisberto Hernández. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mai 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "HERNÁNDEZ, Felisberto 1902-1964", yn Contemporary Authors (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 24 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rosario Ferré, El Acomodador : Una Lectura Fantástica de Felisberto Hernández (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1986).
  • Norah Giraldi De Dei Cas, Felisberto Hernández: Del creator al hombre (Montevideo: Ediciones de la Banda Oriental, 1975).
  • Frank Graziano, The Lust of Seeing: Themes of the Gaze and Sexual Rituals in the Fiction of Felisberto Hernández (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 1997).
  • Ricardo Pallares a Reina Reyes, ¿Otro Felisberto? (Montevideo: Casa del Autor Nacional, 1983).
  • Walter Rela, Felisberto Hernández : persona, obra, cronología documentada (Montevideo: Biblioteca Nacional del Uruguay, 2002).
  • Pablo Rocca, Felisberto Hernández 1902–2002 (Florianópolis: Editora DA UFSC, 2002).
  • Julio A. Rosario-Andújar, Felisberto Hernández y el pensamiento filosófico (Efrog Newydd: Peter Lang, 1999).
  • Roberto Echavarren Welker, El espacio de la verdad: Práctica del texto en Felisberto Hernández (Buenos Aires: Edirotial Sudamericana, 1981).