Neidio i'r cynnwys

Fel Anifail

Oddi ar Wicipedia
Fel Anifail
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMeic Povey Edit this on Wikidata
CyhoeddwrDalier Sylw, Canolfan Astudiaethau Addysg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afCanolfan Gelfyddydau Chapter Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af3 Awst 1995 Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuDalier Sylw Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg gan Meic Povey yw Fel Anifail a lwyfannwyd gyntaf gan Dalier Sylw ar y 3 Awst 1995, yn nghanolfan y Chapter, Caerdydd.[1] Cyhoeddwyd y ddrama gan Dalier Sylw fel rhan o'u cyfres o ddramâu llwyfan. Drama am gwpl priod oedrannus sy'n byw ar lethr y mynydd sydd yma, wrth i gyfrinachau'r gorffennol ddod yn ôl i'w dychryn.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Defi
  • Mair

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Meddwl am eu dyfodol mae Defi a Mair, wedi oes o ffermio yn un o ardaloedd mynyddig Cymru. Mae Mair yn delfrydu am gael byngalo ar y gwastad, tra bod Defi yn dewis i aros lle y maent. "Wrth i drasiediau'r gorffennol ddod yn ôl a hambygio'r ddau - a pheri iddynt hambygio'i gilydd - gwelir bod gwytnwch y mynyddoedd y maent wedi treulio oes ar eu trugaredd yn rhan annatod o'r hyn ydynt".[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Dyma'r ail ddrama i Povey gyfansoddi ar gyfer Dalier Sylw, ac wedi'i chyfarwyddo gan Bethan Jones gyda Wyneb yn Wyneb (1993) yn ei rhagflaenu, a Bonansa (1997) a Tair (1998) yn ei dilyn.

Mae'r ddrama'n adleisio ei ffilm gynharach Nel (1990) a enillodd iddo wobr BAFTA Cymru am y sgript orau.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gyntaf gan Dalier Sylw ym 1995 gyda Bethan Jones yn cyfarwyddo; goleuo Lloyd Elis; rheolwr llwyfan Geinor Jones; cast:

Disgrifiwyd y cynhyrchiad cyntaf o'r ddrama yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Colwyn 1995 fel "uchafbwynt dramatig y Steddfod" yn Golwg, cyn mynd ar daith yn y Gwanwyn 1996.[2]

Cafwyd llwyfanniad arall yn 2018 gan Theatr y Sherman wedi'i chyfarwyddo gan Jac Ifan Moore.[3]

Cafwyd adolygiad 4 seren yn The Guardian i'r cynhyrchiad gan y Cymro Gareth Llŷr Evans.[3]

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Addaswyd y ddrama ar gyfer y gyfres o "Ddramâu Digidol" ar S4C [Digidol] ym 1999. Cwmni Bracan oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu gyda Christine Pritchard ac Owen Garmon yn ail-bortreadu'r cymeriadau a Bethan Jones yn cyfarwyddo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Povey, Meic (1995). Fel Anifail. Dalier Sylw. ISBN 1856443094.
  2. ↑ "Hysbyseb ar gefn y clawr". Barn 397. Chwefror 1996.
  3. 1 2 Evans, Gareth Llŷr (15 Hydref 2018). "Fel Anifail review – an unnerving world of shadows and secrets". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 5 Hydref 2025.