Far Rockaway (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Iwan Llwyd yw "Far Rockaway" a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Dan Ddylanwad: Cerddi 'Mericia, Canada a Chymru (1997). Mae'r teitl yn cyfeirio at gymdogaeth Far Rockaway, Queens, yn Ninas Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Cynhwysir "Far Rockaway" mewn sawl blodeugerdd, gan gynnwys Hoff Gerddi Cymru a chyda throsiad Saesneg gan Robert Minhinnick yn y flodeugerdd ddwyieithog The Adulterer's Tongue.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Esboniai Iwan Llwyd ei ysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd hon:

Cof dyn wedi blino sydd gen i o Far Rockaway. Roeddwn i newydd deithio am y tro cyntaf ar draws yr Iwerydd i'r Unol Daleithiau, gan groesi'r arfordir, yn addas ddigon, ddegau o filoedd o droedfeddi uwch ben Bangor, Maine. Ar ôl cyfarfod y criw teledu oedd i gyd-deithio â mi am dair wythnos o lannau'r Iwerydd i fae San Ffransisco, dyma ddal trên gyda'r bwriad o gyrraedd Manhattan. Ond oherwydd rhyw gamddealltwriaeth—y sioc o glywed y porthorion a'r merched yn y swyddfa docynnau yn siarad Sbaeneg â'i gilydd efallai—aeth y trên â ni i faesdref glan môr Far Rockaway, i gyfeiriad Brooklyn a Coney Island. Doeddem ni ddim yno fwy na rhyw hanner awr, digon i ddal y trên nesaf yn ôl am Manhattan, a phrin y byddwn i'n nabod y lle tase'n rhaid i mi ddychwelyd. Ond mae'r argraffiadau'n aros o le a welodd ddyddiau gwell, traethau budron, heddlu arfog, graffiti. A'r enw gwych yna, Far Rockaway.[1]

Ceisia mynd â ni ar daith i'r lle hudolus hwn a wna Iwan Llwyd yn ei gerdd. Llwydda i roi arwyddocâd lledrithiol a rhamantus i bethau bob dydd, er mai digon plaen a chyffredin yw'r lle yn y bôn. Mae enw'r lle a'i brofiad byr o fod yno yn amlwg wedi ei ysbrydoli. Chwarea ar y geiriau Far (pell) a Rockaway (roc/siglo) trwy gydol y gerdd.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Egyr y gerdd wrth i Iwan Llwyd siarad â ni yn uniongyrchol. Llwydda o'r cychwyn cyntaf i'n gwneud ni'n bersonol yn rhan o'i gerdd: "Dwi am fynd â thi i Far Rockaway, / Far Rockaway". Dywed bod enw'r lle yn "gitâr yn fy mhen, yn gôr / o rythmau haf a llanw'r môr", ac â ymlaen i restru amryw o brofiadau melys, rhamantus eraill: "sgwrs cariadon", "oglau petrol", "chwilio'r lleuad law yn llaw", "hela brogaod", a'r "wefr o fod yn nabod neb". Daw'n amlwg yn y pennill cyntaf cymaint o argraff a gafodd enw'r lle hwn ar y bardd ac mae'r ffaith iddo lanio yn Far Rockaway yn ei atgoffa o deimladau pleserus a gafodd yn ystod ei fywyd. Sonia am y wefr mae'n ei gael o adnabod neb ac mae'n delfrydu'r lle oherwydd yr enw trawiadol.

Gwelwn ychydig o newyd yn yr ail bennill lle y cyfeiria at yr hyn a welodd yn Far Rockaway. Dywed bod "cwr y ne" sef y gorwel neu donnau mân y môr yn cyffwrdd â'r traeth ac yn golchi ei thraed yno er mor fudr a brwnt yw'r traeth ei hun. Mae hefyd yn "ffeirio hwiangerddi ffraeth". Sŵn sisial y môr sydd yma fel petai'n canu hwiangerddi yn ei lanw a'i drai. Cawn ddarlun o hen wraig dlawd yma yn cyfnewid neu'n gwerthu ei hwiangerddi er mwyn medru byw bywyd gwell.

Yma hefyd yn Far Rockaway mae'r graffiti amlwg yn "ffin" rhwng y waliau noeth a'r haul. Dywed bod yr haul yn flin yma sy'n rhoi'r argraff i ni nad yw'r lle hwn yn llewyrchus iawn. Mae'r haul yn tywynnu ond nid rhyw ddarlun delfrydol o bentref glan môr a gawn—rhyw olwg llwm a diflas sydd i'r lle hwn.

Yn y cwpled nesaf,

"lle mae'r trac yn teithio'r llwybr cul
rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul,

cawn gyfeiriad at y trên a'i gludodd yno. Aeth y trên hwnnw oddi ar y "trac" neu'r llwybr cywir gan mai i gyfeiriad Manhattan roedden nhw am deithio. Dewis bwriadol o eiriau a gawn yma gyda'r "llwybr cul" oherwydd iddynt ymlwybro oddi arno. Mae'r cyfeiriad at nos Sadwrn a'r Sul hefyd yn berthnasol gan mai ar nos Sadwrn fel arfer y bydd pobl yn camu o'r "llwybr cul" (hynny yw, yn camymddwyn neu'n meddwi) ac yna byddant yn gwgu ac yn poeni ar y Sul am iddynt ymddwyn mewn modd gwahanol i'r arfer. Cyfeiria Iwan Llwyd wedyn at dday yn rhannu baich eu cyfrinachau "fraich ym mraich".

Cawn ragor o wybodaeth eto am Far Rockaway yn y trydydd pennill pan y sonir am yr heddlu arfog a welodd yn y dre. Mae'n eu delfrydu pan ddywed eu bod yn ysgrifennu "cerddi wrth ddisgwyl trên" ac yn siarad yn "glên" gyda'u gynnau fel pe baent yn ffrindiau da. Trwy'r bobl hyn gwêl Iwan Llwyd ei fyd delfrydol lle mae hyd yn oed heddlu yn barddoni. Try i sôn wedyn am y beirdd yn eistedd ar eu hystolion tal ac yn cynganeddu o'i gwmpas ym mhobman. Dychmyga'r beirdd hyn hefyd yn cymysgu eu wisgi efo gwlith y bore ac yn "chwarae gwyddbwyll â'u llaw chwith". Ceir hud a lledrith ym miwsig y llinell olaf ond un: "mae cusan hir yn enw'r lle". Crynhoa hyn holl deimladau Iwan Llwyd am yr enw Far Rockaway i'r dim.

Mesur[golygu | golygu cod]

Cerdd benrhydd ydyw, heb hyd arbennig i'r llinellau. Cwpledi yw prif fframwaith y gerdd: mae'n canu fesul pâr o linellau'n odli ac mae paru pethau â'i gilydd yn rhan amlwg o'i hadeiladwaith.

Arddull a thechnegau[golygu | golygu cod]

Gwelir ailadrodd dwy linell gyntaf y gerdd ar ddechrau pob pennill:

Dwi am fynd â thi i Far Rockaway,
Far Rockaway

Mae hyn yn effeithiol am i'r bardd ein cynnwys ni'n bersonol trwy gydol ei gerdd sy'n gwneud i ni uniaethu â'i deimladau ef. Mae'r ffaith iddo ailadrodd yr enw Far Rockaway hefyd yn rhoi'r ymdeimlad o siglo yn ôl ac ymlaen ac o'r pellter a awgrymir yn y gair Far.

Defnyddia Iwan Llwyd nifer o drosiadau er mwyn cyfleu ei deimladau tuag at yr enw hyfryd hwn. Dywed bod enw'r lle yn "gitâr yn fy mhen, yn gôr / o rythmau haf a llanw'r môr". Chwareir ar eiriau yma wrth i ni gysylltu "roc" â gitâr a cherddoriaeth ac mae'r ddelwedd hon o gôr yn canu mewn rhythmau fel llanw a thrai y môr yn hynod effeithiol. Wrth ddweud y geiriau Far Rockaway, gallwn glywed rhythmau a sisial y môr: "yn sgwrs cariadon dros goffi cry' / ar ôl taith drwy'r nos mewn pick-up du". Gallwn glywed eto sŵn y geiriau yn y trosiad hwn. Y ffaith bod y cariadon yn sgwrsio dros baned sy'n gwneud i ni feddwl am y sibrwd yma sy'n cael ei glywed yn yr enw Far Rockaway. Mae rhywbeth rhamantus iawn yn y trosiad hwn: y cariadon yma sydd wedi bod yn teithio am oriau yng nghwmni ei gilydd ac yn falch o gael ymlacio ar ôl y siwrnai hir. Cysyllta'r trosiad "yn oglau petrol ar ôl glaw" â'r un blaenorol mewn gwirionedd. Soniwyd eisoes am y pick-up du a gallwn yn glir arogli'r petrol ynddo ar ôl taith hir yn y glaw. Efallai'n wir bod y bardd yn hoff o'r math yma o arogl. Â'r bardd ymlaen wedyn i ddatgan bod enw'r lle hefyd:

yn chwilio'r lleuad law yn llaw,
yn hela brogaod ar gefnffordd wleb,
yn wefr o fod yn nabod neb

Yn sicr mae'r holl brofiad o weld ac o glywed yr enw hwn wedi bod yn fodd i Iwan Llwyd grynhoi yr holl bethau sydd yn effeithio'n bositif arno ef. Mae'r lle yn ei atgoffa o gymaint o bethau. Trosiad arall a geir yn y llinell "lle mae enfys y graffiti'n ffin"—dywed y bardd mai enfys yw'r graffiti am ei fod mor lliwgar ond er hyn ffin ydyw'r graffiti yn y bôn rhwng y waliau noeth a'r haul blin.

Yn yr ail bennill mae'r bardd wedi llwyddo i bersonoli cwr y nef ac i greu rhyw ddelwedd o hen wraig yn sefyll ar y traeth:

lle mae cwr y ne
yn golchi'i thraed ym mudreddi'r traeth,
ac yn ffeirio hwiangerddi ffraeth

Yn yr enghraifft hon o bersonoli, gallwn ddychmygu hen ddynes yn llusgo'i thraed yn araf ar hyd y traeth ac yn cyfnewid hwiangerddi â phwy bynnag fyddai'n barod i wrando arni. Eto mae'r gair "hwiangerddi" yn ein hatgoffa o'r enw Far Rockaway. Bydd mam neu dad yn siglo babi i gysgu a chanu hwiangerddi iddo. Rydym yn gallu unwaith yn rhagor ymdeimlo â sŵn hudolus y geiriau.

Mae'r gerdd hefyd yn cynnwys defnydd o wrthgyferbynnu. Yn y cwpled "lle mae'r trac yn teithio'r llwybr cul / rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul", cawn wrthgyferbyniad rhwng yr holl hwyl a rhialtwch a geir ar nos Sadwrn ac yna'r gwgu a'r pen tost ar ddydd Sul. Hefyd y tawelwch a ddaw ar ôl rhialtwch nos Sadwrn. Erbyn bore Sul mae pobl yn dychwelyd at y llwybr cul ac yn hel atgofion am y noson gynt.

Cerdd llawn delweddaeth, lluniau a dychymyg yw "Far Rockaway". Defnyddia Iwan Llwyd fflachiadau o bethau disgwyliedig bob dydd mewn lle dinesig, er enghraifft "pick-up", "petrol", "cefnffordd", "budreddi", "graffiti", "waliau", "trac", "heddlu", "trên", ond rhaid i ni sylwi hefyd ei fod yn codi'r pethau bob dydd hyn i fod ag arwyddocâd lledrithiol a rhamantus iddynt.

Neges ac agwedd y bardd[golygu | golygu cod]

Yr effaith y gall lle neu eiriau arbennig eu cael arnoch yw neges y gerdd yn y bôn. Dylanwadodd Far Rockaway gymaint ar Iwan Llwyd fel y bu iddo gael ei gyfareddu gan y lle. Er mai lle di-nod a di-ddim oedd mewn gwirionedd, llwyddodd y bardd i'w ramantu. Clywodd, yn sŵn yr enw, rythmau lledrithiol a hudolus ac o ganlyniad gwelodd y lle trwy lygaid gwahanol.

Wrth ddefnyddio'r enw Far Rockaway fel sbardun, llwyddodd Iwan Llwyd i gyfleu'r effaith a gafodd enw'r lle arno. Dywedodd y bardd mai dyma beth mae Far Rockaway ac America yn ei olygu iddo ef:

Yr ymdeimlad yna o lacio cadwynnau'r gorffennol, o fwynhau'r allblygrwydd a'r arwynebolrwydd, y "wefr o fod yn nabod neb", ond eto, drwy'r adeg, y dyheu yna am wynfyd, am wlad yr addewid, er eich bod yn gwybod yn iawn mai dim ond yr enw sy'n aros o dan y sbwriel a'r graffiti."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Iwan Llwyd, "Far Rockaway yn y Galon" yn Gweld Sêr: Cymru a Chanrif America, golygwyd gan M. Wynn Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001), tt. 228–29.