Fanny Anitúa

Oddi ar Wicipedia
Fanny Anitúa
Ganwyd22 Ionawr 1867 Edit this on Wikidata
Durango, Durango Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1969 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano, contralto Edit this on Wikidata

Roedd Fanny Anitúa (22 Ionawr 18874 Ebrill 1969) yn gantores Opera contralto o Fecsico.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Anitúa yn ninas Victoria de Durango, prif ddinas talaith Durango ym Mecsico.[2] Roedd yn ferch i Antonio Sarabia Anitúa, mwyngloddwr, a Josefa Medrano Yanez. Symudodd y teulu i Topia, Durango, pan oedd Fanny yn dair blwydd oed. Yn blentyn ifanc dechreuodd dangos dawn gynhenid i ganu, gan hynny cafodd anogaeth gan ei rhieni i ymuno â chôr eglwys y ddinas. Wedi gwella ei llais fel aelod o'r côr llwyddodd i ennill cystadleuaeth radio gyda gwobr o gontract ganu ar y sianel radio lleol. Yn 12 mlwydd oed dechreuodd ei hyfforddiant cerddorol ffurfiol o dan Maria Aizpuru o Lille.

Ym 1905 yn 18 mlwydd oes symudodd i Ddinas Mecsico [3] gan ddod yn fyfyrwraig yng nghonservatoire cerddorol y ddinas o dan hyfforddiant Juan de Dios Peza a dysgodd traethiad iddi. Ym 1907 derbyniodd ysgoloriaeth i astudio yn ysgol Aristide Franceschetti yn Rhufain.

Llais[golygu | golygu cod]

Roedd gan Anitúa llais cyfoethog a hyblyg a oedd yn ddelfrydol at ganu rhannau fel rôl y teitl yn La Cenerentola gan Gioachino Rossini a rhannau contralto coloratwra eraill.[1]

Gyrfa canu[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei gyrfa broffesiynol trwy ganu rhan y prif gymeriad 1909 yn opera Orfeo ed Euridice gan Christoph Willibald Gluck yn y Teatro Nazionale, Rhufain.[4] Daeth cyfleoedd i ganu rhannau mewn amrywiaeth o theatrau eraill Ewrop yn fuan gan gynnwys Teatro de La Scala ym Milan. Ymysg ei pherfformiadau yn La Scala bu rhan yn Sigfried gan Wagner yn nhymor 1910-11, rhan ym mherfformiad cyntaf o opera Ildebrando Pizzetti Fedra yn chware rhan Etra yn nhymor 1914-15. Bu hefyd yn canu rhan Konchakovna yn yr opera Y Tywysog Igor gan Alexander Borodin ym 1915-16 bu hefyd yn canu mewn operâu gan Giuseppe Verdi rhwng 1923 a 1926

Tu allan i La Scala bu'n chware yn Teatro Regio, Parma gyda rhannau yn Farbwr Sevilla (1916) a La Cenerentola (1920). Tu allan i Ewrop bu'n teithio yn yr Unol Daleithiau a De America.

Gyrfa dysgu[golygu | golygu cod]

Ym 1921 cafodd ei phenodi gan Weinidog Addysg Mecsico, Jose Vasconcelos yn gyfarwyddwr anrhydeddus Conservatoire Cerddorol Cenedlaethol y wlad a dechreuodd dysgu yn Ysgol Gerddorol Genedlaethol Prifysgol Annibynnol Mecsico.[5]

Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddodd y recordiad sain gyntaf o Anthem Genedlaethol Mecsico. Bu cryn feirniadaeth ar y recordiad oherwydd ei bod wedi addasu'r gan at ei arddull cerddorol hi. O ganlyniad bu ymchwiliad swyddogol i bennu arddull safonol i'r Anthem.

Ym 1942 sefydlodd Seminar Diwylliant Mecsicanaidd a'r Academi Cerddoriaeth a Chân gan wasanaethu fel ei chyfarwyddwr hyd ei farwolaeth. Bu hefyd yn hyfforddi yn g nghynllun Hyfforddiant Opera Genedlaethol yn Teatro de las Bellas Artes yn Ninas Mecsico.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Rhoddodd ei pherfformiad olaf ym 1948 yn yr opera La Gioconda gan Amilcare Ponchielli yn Palacio de Bellas Artesyn ninas Mecsico. Wedi hynny bu'n parhau gyda'i gyrfa fel athrawes cerdd hyd ei farwolaeth yn Ninas Mecsico ym 1968. Cafodd ei oroesi gan ei fab Arrigo Coen Anitúa (1913-2007), ieithydd a newyddiadurwr amlwg ym Mecsico.[6]

Repertoire[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Fanny Anitua yn canu'r Habanera o Carmen