Fahrenheit 9/11
Gwedd
| Cyfarwyddwr | Michael Moore |
|---|---|
| Cynhyrchydd |
|
| Ysgrifennwr | Michael Moore |
| Serennu | Michael Moore |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu |
|
| Dyddiad rhyddhau | 17 Mai 2004 (Cannes) 25 Mehefin 2004 (UDA) |
| Amser rhedeg | 122 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ddogfen gan Michael Moore a gafodd ei rhyddhau yn 2004 yw Fahrenheit 9/11. Mae'r ffilm yn archwiliad beirniadol i lywyddiaeth George W. Bush, Ymosodiadau 11 Medi 2001, y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a Rhyfel Irac. Mae'r teitl yn cyfeirio at Fahrenheit 451, y nofel ddystopaidd gan Ray Bradbury sy'n cyflwyno cymdeithas America yn y dyfodol lle mae llyfrau'n cael eu gwahardd ac yn cael eu llosgi pan gant eu darganfod.
Dyma'r ffilm ddogfen fwyaf proffidiol o bob amser. Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2004.