FK Trakai

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
FK Trakai
FK Trakai logo.png
Enw llawn Futbolo Klubas Trakai
Llysenwau Riteriai (y Marchogion)
Sefydlwyd 2005; 12 mlynedd yn ôl
Maes LFF Stadium
(sy'n dal: 5,400)
Cadeirydd Jan Nevoina
Rheolwr José Antonio Vicuna „Kibu“ [1]
Cynghrair A Lyga
2017 A Lyga 3ydd
Gwefan Hafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae Futbolo Klubas Trakai, a adnebir hefyd fel FK Trakai, yn glwb pêl-droed broffesiynol wedi ei lleoli yn nhref Trakai yn Lithwania. Esgynodd y tîm i brif adran Lithwania, A Lyga yn 2014 a gorffen yn ail yn nhymor 2015-16. Byddant yn chwaraeC.P.D. Derwyddon Cefn o Uwch Gynghrair Cymru mewn cystadleuaeth Ewropeaidd Europa Leaguage ym mis Mehefin 2018.

Lliwiau'r tîm yw melyn a glas. Mae'r clwb yn chwarae yn LFF Stadium yn Vilnius, prifddinas Lithwania. Capasiti y stadiwm yw 5,400.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir y clwb yn nhref Trakai, sydd oddeutu 24km i'r gorllewin o'r brifddinas, Vilnius.

Sefydwyd y clwb yn 2005 er mwyn darparu adnoddau ac adloniant hammedn i blant a chymuned y dref. Crewyd daear artiffisial ar y stadiwum yn 2006.[2] a dechreuodd y tîm chwarae yn III Lyga (pedwerydd adran Lithwania). Yn 2010 esgynodd y tîm i II Lyga ac yn 2011 i'r ail adran genedlaethol, I Lyga. Fe esgynon nhw wedyn i'r A Lyga (y brif adran) yn 2014.

A Lyga[golygu | golygu cod y dudalen]

[3] Mae FK Trakai wedi chwarae ym mhrif adran Lithwania ers 2014 gan orffen yn 4ydd yn ei tymor cyntaf.

  • 2015 - Chwaraodd y clwb eu gêm gyntaf gystadleuol yn UEFA Europa League ar 2 Gorffennaf 2015 yn erbyn HB Torshavn o Ynysoedd Ffaröe. Trakai a orfu gan ennill 2-1 dros y ddau gymal. Collodd y clwb yn yr ail rownd i Apollon Limassol o Gyprus (colli 4–0 yn cymal cyntaf; 0-0 ail gymal).

Gorffennodd Trakai yn ail gan ennill yr hawl i gystadlu yn yr UEFA Europa League yn 2016-17.

Stadiwm[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddle'r dwyrain yn stadiwm LFF
Searchtool.svg
Prif erthygl: LFF Stadium

Ers 2014 mae Trakai wedi chwarae yn LFF Stadium (Stadiwm Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania). Enw blaenorol y stadiwum oedd Stadiwm Vėtra Stadium. Adeiladwyd yn stadiwm yn 2004 ac mae'n dal 5,500 person.

Wedi i glwb pêl-droed fynd yn fethdalwyr, cymorodd Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania reolaeth o'r stadiwm.

Mae'r stadiwm bellach wedi cyrraedd Lefel 3 yn statws stadiymau UEFA. Estynir y capasiti i 8,000.

Cyfeiriad y stadiwm yw Liepkalnio 13/2, Vilnius.

Campau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Lyga
  • Cwpan Bêl-droed Lithwania
    • Colli yn y ffeinal (1): 2016 Cup Finalist.png
  • Supercup Lithwania
    • Ail safle (2): 2016, 2017 Cup Finalist.png

Cit[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae lliw cit FK Trakai yn un melyn gartref a cit oddi cartref yn ddu a coch (fel AC Milan) rhwng 2014-2018. Ers 2018, glas tywyll yw lliw y cit oddi cartref.

2006-2013 m. (Cit Cartref)
2006-2013 (Cit oddi cartref)
ers 2014 (Cit Cartref)
Ers 2014 (Cit oddi Cartref)
Ers 2018 (Cit oddi Cartref)

Cynhyrchwyr y Cit[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2011–14 Patrick
  • 2015– Nike

Record yn Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Source: UEFA.com
Pld = Matches played; W = Matches won; D = Matches drawn; L = Matches lost; GF = Goals for; GA = Goals against; GD = Goal Difference. Defunct competitions indicated in italics.

Tymor Cystadleuaeth Rownd Gwrthwynebydd Cartref Oddi Cartref Aggregate
2015–16 UEFA Europa League 1Q Ynysoedd Ffaro HB Tórshavn 3–0 4–1 7–1 Symbol keep vote.svg
2Q Cyprus Apollon Limassol 0–0 0–4 0–4 Symbol delete vote.svg
2016–17 UEFA Europa League 1Q Estonia Nõmme Kalju FC 2–1 1–4 3–5 Symbol delete vote.svg
2017–18 UEFA Europa League 1Q Yr Alban St Johnstone 1–0 2–1 3–1 Symbol keep vote.svg
2Q Sweden IFK Norrköping 2–1 1–2 3–3 (5–3 p) Symbol keep vote.svg
3Q Gweriniaeth Macedonia Shkëndija 2–1 0–3 2–4 Symbol delete vote.svg
2018–19 UEFA Europa League PR Cymru Derwyddon Cefn
Notes
  • PR: Preliminary round
  • 1Q: First qualifying round
  • 2Q: Second qualifying round
  • 3Q: Third qualifying round

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]