FK Jelgava
| Enw llawn | Futbola Klubs Jelgava (Football Club Jelgava) | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 2004 | ||
| Maes | Zemgale Olympic Center (sy'n dal: 1,560) | ||
| Cadeirydd | Māris Peilāns | ||
| Rheolwr | Māris Baumanis | ||
| Cynghrair | Virsliga | ||
| 2020 | 7th | ||
| Gwefan | Hafan y clwb | ||
| |||
Mae FK Jelgava yn glwb pêl-droed o ddinas Jelgava yn Latfia. Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref yn Stadiwm Zemgales Olimpiskais Sporta Centrs sydd â chapasiti o 1,560 people.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae jelgava yn ddinas o rhyw 60,000 o bobl i'r de o'r brifddinas, Riga. Hyd nes 2004 roedd yno ddau dîm pêl-droed yn Jelgava; FK Viola a RAF Jelgava. Penderfynwyd yn 2004 i uno'r ddau glwb i greu un clwb newydd - FK Jelgava. Ers ei sefydlu, mae FK Jelgava wedi chwarae yn Gynghrair 1af Latfia, 1. Liga,[2] ond yn 2009, wedi iddynt ennill pencampwriaeth y Gynghrair gyntaf, dyrchafwyd hwy i'r Uwch Gynghrair, y Virslīga.
Ar 19 Mai 2010 enillodd FK Jelgava gystadleuaeth Cwpan Latfia yn Stadiwm Skonto gan guro FK Jūrmala-VV 6 - 5 mewn rownd cic-o'r-smotyn wedi i'r gêm orffen yn gyfartal 0 - 0.[3]
Yn ystod tymor 2010, Jelgava oedd yr unig glwb o Latfia i ennill gêm mewn twrnament pêl-droed Ewropeaidd. gan guro 2 - 1 yn erbyn Molde FK o Norwy.
Bydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn cofio i RAF Jelgava guro Lido Afan yng nghwpan UEFA yn 1994-95.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]
Latvia
[golygu | golygu cod]- Virslīga (Uwch Gynghrair
- Ail Safle (1): 2016
- Cwpan Latfia
- Enillwyr (4): 2009–10, 2013–14, 2014–15, 2015–16
Record Ewropeaidd
[golygu | golygu cod]| Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Tîm | Cartref | Oddi Cartref | Sgôr Gyfan |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 2010–11 | UEFA Europa League | 2Q | 2–1 | 0–1 | 2–2(Rheol Gôl oddi cartref) | |
| [[2014–15 UEFA Europa League|2014–15 | UEFA Europa League | 1Q | 0–2 | 0–4 | 0–6 | |
| [[2015–16 UEFA Europa League | UEFA Europa League | 1Q | 1–1 | 2–2 | 3–3 (Rheol Gôl oddi cartref) | |
| 2Q | 1–0 | 0–2 | 1–2 | |||
| 2016–17 | UEFA Europa League | [[2016–17 UEFA Europa League#First qualifying round|1Q | 2–2 | 3–2 | 5–4 | |
| 2Q | 3–0 | 0–0 | 3–0 | |||
| 3Q | 1–1 | 0–3 | 1–4 | |||
| 2017–18 | UEFA Europa League | 1Q | 0–1 | 0–2 | 0–3 |
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Futbola laukumi". Zemgales Olimpiskais centrs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-05. Cyrchwyd 9 Mawrth 2016.
- ↑ "Jelgava triumfē 1. līgas čempionātā". Sportacentrs.com. 2009. Cyrchwyd 2009-11-07. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=(help) - ↑ "Pasaka ar laimīgām beigām jeb Jelgava izcīna Latvijas kausu". Sportacentrs.com. 2010. Cyrchwyd 2010-05-19. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=(help)