Neidio i'r cynnwys

Führerprinzip

Oddi ar Wicipedia
Führerprinzip
Poster o'r NSDAP (1941) sy'n darllen: "Mae'r Führer bob amser yn gywir".
Enghraifft o:cysyniad, athrawiaeth, math o lywodraeth, egwyddor Edit this on Wikidata
Rhan oNatsïaeth, Ffasgaeth Edit this on Wikidata
Enw brodorolFührerprinzip Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o ddaliadau canolog ideoleg Natsïaeth oedd y Führerprinzip (Almaeneg am "egwyddor arweinydd") a osodai sylfaen i awdurdod gweithredol y llywodraeth yn y Drydedd Reich. Daliai bod holl awdurdod y wladwriaeth yn deillio o un arweinydd, y Führer, a rhaid cael ufudd-dod llwyr iddo ym mhob rhan o'r gymdeithas.

Wedi i Adolf Hitler gael gafael ar reolaeth yr NSDAP ym 1921, daeth y cysyniad o ffyddlondeb llwyr i'r arweinydd a chefnogaeth lwyr i unrhyw benderfyniad y gwnaeth yn amlwg iawn. Unwaith y llwyddodd Hitler i atgyfnerthu grym erbyn haf 1934 mi ddaeth y gred o Führerprinzip yn sylfaen i fodolaeth y wladwriaeth. Gwladwriaeth unblaid oedd yr Almaen Natsïaidd, a Hitler oedd arweinydd diwrthwynebiad y blaid honno.[1]

Er mewn theori nad oedd ffiniau i bŵer Hitler, mae hanesyddion yn gytûn y byddai'n anghywir i ddisgrifio'r gyfundrefn Natsïaidd fel un effeithiol. I'r gwrthwyneb mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn derbyn safbwynt pennaeth y wasg ar y pryd, Otto Dietrich, a ddaeth i'r casgliad: "Yn ystod y 12 mlynedd o'i reolaeth yn yr Almaen, creodd Hitler y dryswch mwyaf mewn llywodraeth a fu erioed mewn gwladwriaeth wareiddiedig." I raddau, roedd y dryswch yn fwriadol. Ni cheisiodd y Natsïaid gyfuno'r hen fiwrocratiaeth â sefydliadau'r NSDAP, ac yn ogystal aeth Hitler ati i greu nifer o gyrff a oedd yn annibynnol ar y blaid a'r gwasanaeth sifil. Gyda chaniatâd Hitler, tyfodd rhai sefydliadau, er enghraifft yr SS, yn gyfryngau i'w rym personol, heb gyfyngiadau. Nid oedd bob amser cadwyn awdurdod rheolaidd na chyfrifoldebau diffiniedig. O ganlyniad, bu nifer o benaethiaid, swyddogion a gweinyddwyr yn gwneud penderfyniadau ar liwt eu hunain ac heb gydlynu â sefydliadau eraill, ond bob tro yn "gweithio tuag at y Führer".[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Geoff Layton, Germany: The Third Reich 1933–45, 3ydd argraffiad (Abingdon, Swydd Rydychen: Hodder 2005), t. 106.
  2. ↑ Dick Geary, Hitler and Nazism (Llundain: Routledge, 2000), t. 45.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen Natsïaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.