Félix Couchoro
Gwedd
Félix Couchoro | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ionawr 1900 ![]() |
Bu farw | 1969, 5 Ebrill 1968 ![]() |
Llenor o Dogo oedd Félix Couchoro (30 Ionawr 1900 – 5 Ebrill 1968) a ystyrir yn awdur toreithiocaf Togo yn yr 20g.
Ganed ef yn Ouidah, Dahomey (bellach Benin), a oedd yn rhan o Orllewin Affrica Ffrengig. Daeth tiriogaeth gyfagos Togo hefyd dan reolaeth Ffrainc ym 1916. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, l'Esclave, ym 1930. Ymsefydlodd yn Aného ym 1939 a gweithiodd yn asiant masnachol ar y cyd a'i yrfa lenyddol. Ysgrifennodd 14 o lyfrau yn ystod ei oes, mewn iaith Ffrangeg syml a oedd yn gyfarwydd i ddarllenwyr Togo a Benin. Bu farw yn Lomé yn 68 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jennifer C. Seely a Samuel Decalo, Historical Dictionary of Togo, 4ydd argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2021), t. 124.