Evan Vincent Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Syr Evan Vincent Evans (1851-1934)

Golygydd a newyddiadurwr Cymreig oedd Evan Vincent Evans (25 Tachwedd 185113 Tachwedd 1934), a adnabyddid fel rheol fel E. Vincent Evans. Roedd yn ffigwr amlwg ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol a chymdeithasau diwylliannol Cymru yn chwarter olaf 19c a dechrau'r 20c ac yn adnabyddus am ei wladgarwch twym, er nad oedd yn genedlaetholwr fel y cyfryw.[1]

Ganed Evans yn Llanegryn, ym mhlwyf Llangelynnin, Meirionnydd (Gwynedd) yn 1851 i deulu o werinwyr. Collodd ei fam pan oedd yn bedair oed a magwyd ef gyda'i Nain yn Nhrawsfynydd. Ni chafodd ond ychydig o addysg ffurfiol ond llwyddodd i ddod yn gyfrifydd llwyddianus ar ôl ymgartrefu am gyfnod yn Llundain yn 1872, lle daeth i chwarae rhan yng nghymdeithas Cymry Llundain.

Bu'n ohebydd seneddol i The Manchester Guardian am gyfnod a chyfrannai'n wythnosol hefyd i Baner ac Amserau Cymru Thomas Gee a phapurau eraill. Fe'i cofir yn bennaf fel golygydd a threfnydd. Cafodd ei benodi yn ysgrifenydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1881, gan olygu'r Cofnodion a chyfansoddiadau ymhlith pethau eraill, a bu'n olygydd Trafodion y Cymmrodorion ac Y Cymmrodor hefyd a daeth yn Ysgrifennydd y Cymmrodorion.

Roedd yn gyfaill mynwesol i David Lloyd George ar adeg pan oedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth. Hyrwyddai achosion diwyllianol Cymreig a'r iaith Gymraeg gan fanteisio ar ei gysylltiadau eang. Cafodd ei urddo yn farchog yn 1909. Roedd yn ffigwr llai amlwg yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhan o'r "hen do". Bu farw yn 1934 yn 83 oed.

Ffynnonellau[golygu | golygu cod y dudalen]