Neidio i'r cynnwys

Evan Tom Davies

Oddi ar Wicipedia
Evan Tom Davies
Ganwyd24 Medi 1904 Edit this on Wikidata
Pencader Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
Waterloo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Ymgynghorydd y doethor
  • Tullio Levi-Civita Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Mathemategydd o Gymro oedd Evan Tom Davies (llysenw: Ianto; 24 Medi 19048 Hydref 1973). Astudiodd gymwysiadau'r deilliad Lie (a enwyd ar ôl Sophus Lie gan Władysław Ślebodziński) gan ei fod yn ymwneud â geometreg Riemanaidd yn ogystal â chalcwlws differol absoliwt, a chyhoeddodd nifer fawr o bapurau yn ymwneud â'r pynciau hyn.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Rhieni Evan (Ianto) Davies oedd Thomas ac Elizabeth Davies, ffermwyr Cymraeg eu hiaith. Ianto (fel yr oedd yn adnabyddus i'w ffrindiau a'i gydweithwyr ar hyd ei oes) oedd yr ieuengaf o ddau fab.

Ganwyd Davies ym 1904 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn fab i ffermwr a mynychodd yr ysgol gynradd leol. Wedi hynny, derbyniodd Davies ysgoloriaeth lawn i Ysgol Sir Llandysul yn nhref gyfagos Llandysul. Yno daeth yn ffrindiau gydag Evan James Williams, a fyddai’n athro ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn aelod o’r Gymdeithas Frenhinol yn ddiweddarach. Yn 1921, cofrestrodd ym Mhrifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gwyddorau gydag anrhydedd ym maes mathemateg gymhwysol. Ar ôl graddio aeth i Brifysgol Abertawe lle astudiodd fathemateg bur, lle derbyniodd ei radd meistr cyn symud i Rufain yn Awst 1926 i astudio gyda'r arbenigwr ar galcwlws differol absoliwt, Tullio Levi-Civita. Yno y derbyniodd ei ddoethuriaeth.[1]

Ym 1930, ar ôl seibiant academaidd byr oherwydd iechyd gwael, derbyniodd Davies swydd fel darlithydd cynorthwyol yng Ngholeg y Brenin Llundain. Yno cafodd ei ddyrchafu ddwywaith, yn gyntaf i Ddarlithydd ym 1935, ac yn ddiweddarach i Ddarllenydd ym 1946. Gwagiwyd Coleg y Brenin oherwydd y Blitz yn Llundain a gorfodwyd ef i symud dros dro i Brifysgol Bryste. Y person a ddylanwadodd fwyaf ar Davies yn ystod y blynyddoedd hyn oedd Paul Dienes, Hwngari a Jacques Hadamard ym Mharis. Penodwyd Dienes i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn Hydref 1921, gan ymuno â William Henry Young. Dysgwyd Davies gan Dienes ac Young yn ystod ei flynyddoedd israddedig yn Aberystwyth.[2]

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd a'i ddyrchafiad dilynol yn Ddarlithydd; byddai Davie yn dod yn gadeirydd mathemateg ym Mhrifysgol Southampton. Arhosodd yn Southampton tan iddo ymddeol ym 1969 yn 65 oed.

Ar ôl ymddeol, aeth ymlaen i fod yn athro mathemateg ym Mhrifysgol Calgary, Alberta, Canada am gyfnod o ddwy flynedd cyn gadael i fod yn athro ym Mhrifysgol Waterloo hefyd yn Ontario.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priodas gyntaf Davies oedd â Margaret Helen Picton ym 1941, ond bu farw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1944. Ym 1955 ailbriododd, â Hilda Gladys Boyens, a chawsant un mab. Gwnaeth ieithyddiaeth yn hobi iddo ac roedd yn rhugl mewn pum iaith. [1]

Tra'n gweithio ym Mhrifysgol Waterloo yn Ontario bu farw yn 69 oed.[1][3]

Gweithiau

[golygu | golygu cod]
  • On the infinitesimal deformations of a space (1933)
  • On the deformation of a subspace (1936)
  • On the infinitesimal deformations of tensor submanifolds (1937)
  • On the second and third fundamental forms of a subspace (1937)
  • Analogues of the Frenet formulae determined by deformation operators (1938)
  • Lie derivation in generalized metric spaces (1939)
  • Subspaces of a Finsler space (1945)
  • Motions in a metric space based on the notion of area (1945)
  • The theory of surfaces in a geometry based on the notion of area (1947)
  • On the invariant theory of contact transformations (1953)
  • Parallel distributions and contact transformations (1966)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Evan Tom Davies". www-history.mcs.st-andrews.ac.uk. School of Mathematics and Statistics University of St Andrews, Scotland. Cyrchwyd 28 Mehefin 2015.
  2. mathshistory.st-andrews.ac.uk; adalwyd 22 Mehefin 2025.
  3. Rund, Hanno; Forbes, Williams F. (1976). Topics in Differential Geometry. New York, New York: Academic Press. ISBN 9781483272696. Cyrchwyd 28 Mehefin 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]