Evan Lloyd (cyhoeddwr)
Evan Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1800 ![]() Yr Wyddgrug ![]() |
Bu farw | 2 Mai 1879 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | argraffydd, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwas sifil ![]() |
Blodeuodd | 1833 ![]() |
Cyflogwr |
Cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwas sifil ac argraffydd o Gymru oedd Evan Lloyd (17 Mai, 1800 - 2 Mai 1879).
Cafodd ei eni yn Adwy'r Clawdd ym 1800 yn fab i'r Parch Evan Lloyd, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Wedi cyfnod o brentisiaeth yn y grefft o argraffu gyda gwasg Painter Wrecsam [1] sefydlodd gwasg yn y Wyddgrug gyda'i frawd John. Gwasg John ac Evan Lloyd fu'n gyfrifol am gyhoeddi sylwebaeth Feiblaidd James Hughes (Iago Trichrug) a chyhoeddi un o'r papurau newyddion Cymraeg cynharaf, Cronicl yr Oes. Tua 1839 rhoddodd gorau i'w gwaith fel argraffydd a symudodd i Lundain lle fu'n gweithio i Adran Gyllid y wlad.[2]
Priododd Mary Jones, Y Wyddgrug 1 Ebrill 1834 [3]
Bu farw yn ei gartref 81 Carlton Hill, Llundain yn 79 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kilburn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "GENERAL NEWS - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1879-05-16. Cyrchwyd 2020-10-22.
- ↑ "Family Notices - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1879-05-09. Cyrchwyd 2020-10-22.
- ↑ Y Cynniweirydd Cyf. I rhif. V - Mai 1834 tud 160; Priodasau