Eva Ström
Eva Ström | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Ionawr 1947 ![]() Lidingö ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, meddyg, beirniad llenyddol ![]() |
Adnabyddus am | Revbensstäderna ![]() |
Plant | Karin Ström ![]() |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Aniara, Gwobr Samfundet De Nios Särskilda, Gwobr Tegnérpriset, Harry Martinson-priset, Q10467322, Q10511054, Gerard Bonnier Poetry Award ![]() |
Awdures a meddyg o Sweden yw Eva Ström (ganwyd 4 Ionawr 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, bywgraffydd, awdur geiriau caneuon a beirniad llenyddol.[1] Mae'n fam i'r gantores a'r awdur Karin Ström, a aned yn 1977.
Fe'i ganed yn Lidingö, swydd Stockholm ar 4 Ionawr 1947.[2]
Yn 1877 y cyhoeddodd ei gwaith pwysig cyntaf, sef cyfrol o gerddi o'r enw Den brinnande zeppelinaren. O ddydd i ddydd, rhwng 1974 a 1988, gweithiai fel meddyg, cyn troi'n awdur proffesiynol.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Derbyniodd Wobr Llenyddiaeth Cyngor y Gwledydd Llychlynnaidd yn 2003 am ei chasgliad o gerddi, Revbensstäderna ("Dinasoedd yr Asennau") ac yn Ionawr 2010, fe'i hetholwyd yn aelod o Academi Frenhinol Gwyddoniaeth Sweden am ei chyflawniadau yn y dyniaethau ac am wasanaeth rhagorol i wyddoniaeth.[3]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- 1977 Den brinnande zeppelinaren, lyrikk
- 1979 Steinkind
- 1982 Det mörka alfabetet
- 1983 Akra
- 1986 Samtal med en daimon
- 1989 Kärleken till matematiken, dikt
- 1991 Mats Ulfson, roman
- 1993 Brandenburg, dikt
- 1994 Edith Södergran, biografi
- 1997 Berättelser dikt
- 1997 Poesi & musik, CD + hefte
- 1999 Bröd, roman
- 2002 Revbensstäderna, dikt
- 2004 Rött vill till rött, dikt
- 2007 Claires leende, roman
- 2013 Utskuret ur ett större träd, dikt
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Nordic Council Literature Prize. Literature Prizewinners 1962 - 2013". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-01. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2014.
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://runeberg.org/vemarhon/0435.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mehefin 2022. http://runeberg.org/vemardet/2001/1071.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mehefin 2022.
- ↑ Royal Swedish Academy of Sciences: Från teoretisk magnetism till brinnande zeppelinare – fem nya ledamöter invalda i akademien Archifwyd 2010-12-14 yn y Peiriant Wayback.; datganiad i'r wasg; 3 Chwefror 2010 Nodyn:Sv icon