Etholiadau lleol gwledydd Prydain 2017

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map yn dangos rheolaeth y cyngor (chwith) a'r blaid fwyaf poblogaid o ran ward (dde).
     Ceidwadwyr      Lllafur      Dem. Rhyddfrydol         SNP         Plaid Cymru      UKIP

Cynhaliwyd etholiadau lleol yng ngwledydd Prydain ar 4 Mai 2017; ond nid yng Ngogledd Iwerddon na rhai etholaethau yn Lloegr. Yr un diwrnod, cynhaliwyd etholiadau Maeri y chwe Awdurdod Cyfunol newydd yn Lloegr am y tro cyntaf.[1] Yn lloegr, dim ond mewn 34 o awdurdodau lleol y cafwyd etholiad.

Dyma'r sefyllfa cyn yr etholiad:

  • Llafur – 1,535 o sedd
  • Ceidwadwyr – 1,336
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 484
  • SNP – 438
  • Plaid Cymru – 170
  • UKIP – 146
  • Y Blaid Werdd – 34
  • Mebyon Kernow – 4
a 687 cynghorydd annibynol, di-blaid.

Gwledydd Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Alban[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd newid ffiniau cyn yr etholiad; dyma'r canlyniad wedi'r newid hwnnw:[2][3]

e • d Crynodeb o Ganlyniad Etholiad 3 Mai 2017 Cynghorau'r Alban[4]
Plaid Pleidlais cyntaf Cynghorau +/- 2012 sedd 2017 sedd Newid
Seddau a enillwyd Seddi ar gael Seddi a enillwyd Sedd % vs 2012 vs Seddi ar gael
SNP 610,454 32.3% Steady0.0 0 Decrease1 425 438 431 35.1% increase6 Decrease7
Plaid Geidwadol yr Alban 478,073 25.3% increase12.0% 0 Steady 115 112 276 22.5% increase161 increase164
Plaid Lafur yr Alban 380,957 20.2% Decrease11.4% 0 Decrease3 394 395 262 21.4% Decrease132 Decrease133
Aelod Annibynol (di-blaid) 199,261 10.5% Decrease1.3% 3 Steady 196 198 172 14.1% Decrease24 Decrease26
Democratiaid Rhyddfrydol (yr Alban) 128,821 6.8% increase0.2% 0 Steady 71 70 67 5.5% Decrease4 Decrease3
Plaid Werdd (yr Alban) 77,682 4.1% increase1.8% 0 Steady 14 14 19 1.6% increase5 increase5
Dim Rheolaeth Lwyr 29 increase4
Total 1,889,658 100.0 ±0.0 32 Steady 1,223 1,227 1,227 100.00 increase4 Steady

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Awdurdodau lle ceir rheolaeth lwyr (chwith); map ar y dde: rheolaeth wardiau.

Cafodd y Blaid Lafur gryn dipyn o golledion, ond nid cymaint ag a broffwydodd y cyfryngau., gan golli eu gafael ar Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent . Llwyddodd y Blaid Lafur i gadw eu gafael ar Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Llwyddodd Plaid Cymru, yr ail blaid fwyaf, i gynyddu nifer y cynghorwyr i 202, sef 33 y rhagor a chafodd Ceidwadwyr 184 yn fwy. Cafodd yr ymgeiswyr annibynol 322 o seddi a'r Rhyddfrydwyr 62, sef 11 yn llai. Ni lwyddodd UKIP i ddal eu gafael yn y ddwy sedd oedd ganddynt.[5]

Cyngor Rheolaeth flaenorol Canlyniad
Ynys Môn Neb yn rheoli Neb yn rheoli
Blaenau Gwent Llafur Annibynnol
Pen-y-bont ar Ogwr Llafur Neb yn rheoli
Caerffili Llafur Llafur
Caerdydd Llafur Llafur
Caerfyrddin Neb yn rheoli Neb yn rheoli
Ceredigion Neb yn rheoli Neb yn rheoli
Conwy Neb yn rheoli
(Cynghrair Plaid Cymru/Llafur/Rhyddfrydwyr/Annibynol) †
Neb yn rheoli
Sir Ddinbych Neb yn rheoli
(Cynghrair Plaid Cymru/Annibynol/Ceidwadwyr) ‡
Neb yn rheoli
Sir y Fflint Neb yn rheoli Neb yn rheoli
Gwynedd Plaid Cymru†† Plaid Cymru
Merthyr Tudful Llafur Annibynnol
Mynwy Neb yn rheoli Ceidwadwyr
Castell-nedd Port Talbot Llafur Llafur
Casnewydd Llafur Llafur
Sir Benfro Annibynnol Annibynnol
Powys Annibynnol Neb yn rheoli
Rhondda Cynon Taf Llafur Llafur
Abertawe Llafur Llafur
Torfaen Llafur Llafur
Bro Morgannwg Neb yn rheoli Neb yn rheoli
Wrecsam Neb yn rheoli Neb yn rheoli

Maeri'r chwe Awdurdod Cyfunol newydd yn Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd chwe etholiad rhanbarthol yn Lloegr, fel rhan o ddatganoli pwer o Lundain.

Awdurdod Cyfunol Maer/Cadeirydd Canlyniad Details
Caergrawnt a Peterborough Robin Howe (Ceidwadwyr) James Palmer (Ceidwadwyr)
Manceinion Fwyaf Tony Lloyd (Llafur) Andy Burnham (Llafur)
Dinas a Rhanbarth Lerpwl Joe Anderson (Llafur) Steve Rotheram (Llafur)
Tees Valley Sue Jeffrey (Ceidwadwyr) Ben Houchen (Ceidwadwyr)
Gorllewin Lloegr Matthew Riddle (Ceidwadwyr) Tim Bowles (Ceidwadwyr)
Gorllewin Canolbarth Lloegr Bob Sleigh (Ceidwadwyr) Andy Street (Ceidwadwyr)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]