Etholiad ffederal Awstralia, 2022
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 151 sedd yn y Nhŷ'r Cynrychiolwyr Mae angen 76 sedd ar gyfer mwyafrif 40 o'r 76 sedd yn y Senedd | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Arolygon barn | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofrestrwyd | 17,213,433 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Nifer a bleidleisiodd | 15,461,379 (89.82%) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniadau fesul etholaeth | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd etholiad ffederal Awstralia 2022 ddydd Sadwrn 21 Mai 2022 i ethol 47ain Senedd Awstralia.[1] Ceisiodd Scott Morrison, arweinydd y Blaid Ryddfrydol a'r Glymblaid a oedd mewn grym, ennill pedwerydd tymor yn olynol yn y swydd, ond fe'i trechwyd gan yr wthblaid, y Blaid Lafur, dan arweiniad Anthony Albanese.
Cyflawnodd y Blaid Lafur ei llywodraeth fwyafrifol gyntaf ers 2007, gan ennill 77 o'r 151 sedd yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr. Fodd bynnag, roedd y Glymblaid yn parhau i fod y blaid fwyaf yn y Senedd, lle roedd yn dal 40 o'r 76 sedd.
Sigodd pob talaith heblaw Tasmania i Lafur ar sail dwy blaid, gyda Thasmania yn mynd yn groes i'r duedd ac yn siglo i'r Glymblaid. Roedd y swing mwyaf i Lafur yng Ngorllewin Awstralia, lle enillodd Llafur fwyafrif o seddi am y tro cyntaf ers 1990. Enillodd Llafur y bleidlais a ffefrir gan ddwy blaid ym mhob talaith ac eithrio Queensland (lle enillodd y Glymblaid), ac enillodd Llafur y mwyafrif o seddau ym mhob talaith heblaw Queensland a Thasmania (enillodd y Glymblaid fwyafrif yn Queensland, tra rhannwyd Tasmania yn gyfartal rhwng y ddwy brif blaid ac un annibynnol).
Disodlwyd y ddau arweinydd o'r Glymblaid yn dilyn yr etholiad. Ymddiswyddodd Scott Morrison fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol, a chymerodd Peter Dutton ei le.[2] Disodlwyd Barnaby Joyce fel arweinydd y Blaid Genedlaethol gan David Littleproud.[3] Scott Morrison oedd y Prif Weinidog cyntaf i wasanaethu am dymor llawn yn olynol yn y swydd ac arwain plaid i ddau etholiad yn olynol ers John Howard.
Nid oedd yr etholiad yn fuddugoliaeth ysgubol i Lafur, oherwydd llwyddiant yr annibynwyr (a enillodd seddi yn Sydney, Melbourne a Pherth) a'r Gwyrddion (a enillodd dair sedd ym Mrisbane ac a gadwodd eu sedd ym Melbourne).
Nodynau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robbie Katter yw arweinydd y blaid ond nid yw'n ymladd yr etholiad ffederal nac yn aelod o senedd y Gymanwlad. Mae Robbie Katter yn AS yn Senedd Queensland ar gyfer Traeger.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Josh Butler (20 Mehefin 2022). "Labor steady, Coalition down, crossbench up: who's who in the new Senate". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ Hitch, Georgia (30 Mai 2022). "Peter Dutton elected new Liberal Party leader, Sussan Ley becomes deputy leader". ABC News (yn Saesneg). Australian Broadcasting Corporation. Cyrchwyd 22 Mehefin 2022.
- ↑ "Barnaby Joyce says Labor's 2022 primary vote was its lowest since 1910. Is that correct?". ABC News (yn Saesneg). Australian Broadcasting Corporation. 4 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2022.