Etholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng Nghymru
| |||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r seddi yn Nhŷ'r Cyffredin | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Mae disgwyl i etholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig gael ei gynnal cyn 25 Ionawr 2025. Bydd rhwng 32 a 40 o seddi gwag yng Nghymru.
Etholiad[golygu | golygu cod]
Dyddiad[golygu | golygu cod]
Diddymodd Deddf Diddymu a Galw Senedd y DU, 2022 Ddeddf Senedd Cyfnod-Penodol 2011 sy'n golygu fod yn rhaid galw'r etholiad newydd cyn 17 Rhagfyr 2024, gyda diwrnod yr etholiad ei hun ar 24 Ionawr 2025 fan bellaf. Mae prif weinidog y DU hefyd bellach yn gallu galw etholiad cyffredinol.[1]
Nifer yr ASau Cymreig[golygu | golygu cod]
Pasiodd y DU fod yn rhaid i nifer yr ASau Cymreig yn yr etholiad cyffredinol nesaf ostwng o 40 i 32 ac mae ffiniau etholaethau newydd hefyd wedi'u cynnig.[2]
Cyhoeddwyd y cynlluniau ffiniau diwygiedig ar 19 Hydref 2022 gyda chyfnod ymgynghori o bedair wythnos yn unig.[3]
Arolygon barn[golygu | golygu cod]
Seddi[golygu | golygu cod]
Yn ôl arolwg barn gan Survation yn Chwefror 2024, roedd Llinos Medi sy'n sefyll dros Blaid Cymru, ar y blaen i ennill sedd y Toriaid yn Ynys Môn gyda 39% o'r bleidlais. Roedd Llafur ar 27%, y Ceidwadwyr ar 26% a Diwygio ar 4%.[4]
Roedd Plaid Cymru hefyd ar y blaen yn arolwg barn Caerfyrddin, dan arweiniad y ddynes busnes Ann Davies gyda 30% o'r bleidlais; y Torïaidd a Llafur ar 24%; Jonathan Edwards fel ymgeisydd annibynol ar 10%; a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Diwygio ar 4% yr un.[4]
Canran genedlaethol[golygu | golygu cod]
Cwmni | Dyddiad | Maint sampl | Llafur | Ceidwadwyr | Plaid Cymru | Reform | Dem Rhydd | Gwyrdd | Arall | Arwain |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Redfield and Wilton Strategies | 22-23 Ebrill 2024 | 840 | 40% | 18% | 14% | 18% | 6% | 4% | 0% | 22% |
Redfield and Wilton Strategies | 23-24 Mawrth 2024 | 878 | 49% | 16% | 10% | 15% | 5% | 5% | 1% | 33% |
Redfield and Wilton Strategies | 18 Chwefror 2024 | 874 | 45% | 22% | 10% | 13% | 5% | 5% | 1% | 23% |
Redfield and Wilton Strategies | 24-26 Ionawr 2024 | 1,100 | 48% | 20% | 11% | 12% | 4% | 4% | 1% | 28% |
Redfield and Wilton Strategies | 10-11 Rhagfyr 2023 | 1,086 | 47% | 22% | 11% | 10% | 6% | 3% | 0% | 25% |
YouGov | 4-7 Rhagfyr 2023 | 1,004 | 42% | 20% | 15% | 12% | 7% | 3% | 1% | 22% |
Redfield and Wilton Strategies | 12-13 Tachwedd 2023 | 1,100 | 44% | 24% | 13% | 9% | 4% | 5% | 1% | 20% |
Redfield and Wilton Strategies | 14-15 Hydref 2023 | 959 | 46% | 26% | 10% | 10% | 4% | 4% | 0% | 20% |
Redfield and Wilton Strategies | 16-17 Medi 2023 | 1,172 | 44% | 22% | 10% | 7% | 9% | 6% | 1% | 22% |
YouGov | 1-6 Medi 2023 | 50% | 19% | 12% | 8% | 5% | 5% | 2% | 31% | |
Redfield and Wilton Strategies | 13-14 Awst 2023 | 1,068 | 41% | 24% | 13% | 11% | 7% | 4% | 0% | 17% |
Yr Etholiad Cyffredinol | 12 Rhagfyr 2019 | - | 40.9% | 36.1% | 9.9% | 5.4% | 6.0% | 1.0% | 0.7% | 4.8% |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "The intention behind the repeal of the Fixed-term Parliaments Act is to strengthen the executive and the Conservative Party". British Politics and Policy at LSE. 2022-03-29. Cyrchwyd 2022-10-22.
- ↑ Hayward, Will (2022-10-19). "New plans to cut the number of Welsh MPs and create new constituencies". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-22.
- ↑ Masters, Adrian (2022-10-19). "Number of Welsh MPs to be cut from 40 to 32 under new proposals". ITV News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-22.
- ↑ 4.0 4.1 Mansfield, Mark (2024-02-01). "Double opinion poll boost for Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.