Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod y Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
Cynhaliwyd etholiad ar ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 i ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd Unol Daleithiau America. Dewisodd pleidleiswyr ym mhob talaith ac Ardal Columbia etholwyr y Coleg Etholiadol, er mwyn ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd am bedair blynedd.
Ymgeiswyr
[golygu | golygu cod]Y Blaid Ddemocrataidd
[golygu | golygu cod]Yn Ebrill 2023, cyhoeddodd yr Arlywydd presennol Joe Biden y byddai'n ceisio cael ei ailethol, gyda'r Is-Arlywydd Kamala Harris yn parhau i fod yn gydymaith iddo. Roedd pryderon ynghylch oedran Biden, gan mai ef yw’r person hynaf i gymryd swydd yr Arlywydd, yn 78 oed. Tra enillodd Biden yr enwebiad yn hawdd, roedd yn wynebu rhywfaint o wrthwynebiad gan rai a oedd yn anhapus gyda’i gefnogaeth i Israel yn Rhyfel Gaza.[1][2][3][4]
Ar 21 Gorffennaf 2024, gadawodd Biden y ras, yn dilyn perfformiad gwael ganddo mewn dadl deledu'n erbyn Donald Trump ar 27 Mehefin. Cymeradwyodd ef Kamala Harris i fod yn olynydd iddo. Daeth Harris yn enwebai swyddogol y Democratiaid ar 5 Awst yn dilyn pleidlais gan aelodau'r blaid. Ar 6 Awst, dewisodd hi Tim Walz, Llywodraethwr o Minnesota, fel ei chyd-ymgeisydd ar gyfer yr is-arlywyddiaeth.[5]
Ymgeiswyr y Blaid Ddemocrataidd yn 2024 | |
|---|---|
| Kamala Harris | Tim Walz |
| darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
| 49ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau (2021–presennol) |
41ain Llywodraethwr Minnesota (2019–presennol) |
Y Blaid Weriniaethol
[golygu | golygu cod]Cafodd Donald Trump, yr Arlywydd ar y pryd, ei drechu gan Joe Biden yn etholiad 2020. Ef yw'r pumed cyn-lywydd i geisio ail dymor nad yw'n dilyn ei dymor cyntaf. Os bydd yn ennill, ef fyddai'r ail arlywydd i ennill tymor nad yw'n olynol, ar ôl Grover Cleveland ym 1892. Cyhoeddodd Trump y byddai'n sefyll ar 15 Tachwedd 2022. Dywedodd na fyddai’r cyn Is-Arlywydd Mike Pence yn gyd-ymgeisydd iddo.[6] Mewn achosion sifil, mae Trump wedi’i ganfod yn euog o gam-drin rhywiol a difenwi yn 2023, difenwi yn 2024, a thwyll ariannol yn 2024, gan ddod y cyn-arlywydd cyntaf i’w gael yn euog o drosedd.[7]
Ar 30 Mai 2023, cafwyd Trump yn euog o 34 cyhuddiad o ymyrryd gyda chofnodion busnes mewn ymgais i guddio taliadau i’r actores ffilm Stormy Daniels.[8] Cyhuddwyd Trump eto ym Mehefin am y modd yr ymdriniodd â dogfennau cyfrinachol a oedd yn cynnwys deunyddiau a oedd yn sensitif i ddiogelwch cenedlaethol. Dtatganodd ei fod yn ddieuog o bob cyhuddiad.[9] Ar 13 Gorffennaf 2024, saethwyd Trump yn ei glust mewn ymgais i'w lofruddio wrth iddo siarad mewn rali awyr agored ger Butler, Pennsylvania. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar ddiwrnod cyntaf Confensiwn Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, cyhoeddodd Trump ei fod wedi dewis JD Vance, y Seneddwr dros Ohio, fel ei gyd-ymgeisydd. Ar 18 Gorffennaf, derbyniodd Trump yr enwebiad gan y Confensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol i sefyll yn yr arlywyddiaeth ar ran y Blaid Weriniaethol. Hwn oedd ei drydydd etholiad yn olynol.[10]
Ymgeiswyr y Blaid Weriniaethol yn 2024 | |
|---|---|
| Donald Trump | JD Vance |
| darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
| 45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (2017–2021) |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros Ohio (2023–presennol) |
Ymgeiswyr pleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol
[golygu | golygu cod]Plaid Rhyddfrydwr
[golygu | golygu cod]Dewiswyd Chase Oliver a Mike ter Maat gan y Blaid Ryddfrydol fel eu henwebeion arlywyddol ac is-arlywyddol ar 26 Mai 2024.
Ymgeiswyr Plaid Rhyddfrydwr yn 2024 | |
|---|---|
| Chase Oliver | Mike ter Maat |
| darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
| Gweithredwr cyfrif gwerthu o Georgia |
Economegydd o Virginia |
Y Blaid Werdd
[golygu | golygu cod]Dewisiwyd Jill Stein yn ymgeisydd y Blaid Werdd yn 2012 ac yn 2016. Ar 16 Awst 2024, dewiswyd Stein a'r academydd Butch Ware fel ei chyd-ymgeisydd.
Ymgeiswyr y Blaid Werdd yn 2024 | |
|---|---|
| Jill Stein | Butch Ware |
| darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
| Meddyg o Massachusetts |
Academaidd o California |
Cornel West (annibynnol)
[golygu | golygu cod]Mae Cornel West yn actifydd sosialaidd ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Ei gyd-ymgeisydd yw Melina Abdullah, arweinydd academaidd a dinesig o California.
| Ymgeiswyr Annibynnol 2024 | |
|---|---|
| Cornel West | Melina Abdullah |
| darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
| Academaidd ac actifydd o California |
Arweinydd academaidd a dinesig o California |
Ymgeiswyr a dynwyd yn ôl
[golygu | golygu cod]- Robert F. Kennedy Jr., cyfreithiwr amgylcheddol ac ymgyrchydd yn erbyn brechu. Safodd fel ymgeisydd annibynnol a dewisodd Nicole Shanahan fel ei gyd-ymgeisydd. Daeth a'i ymgyrch i ben er mwyn cymeradwyo Donald Trump.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rafford, Claire (Ionawr 19, 2022). "Biden commits to Harris as his running mate for 2024". Politico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 27, 2022. Cyrchwyd January 19, 2022.
- ↑ Evans, Gareth (25 Ebrill 2023). "President Joe Biden launches 2024 re-election campaign". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 25, 2023. Cyrchwyd Tachwedd 10, 2023.
- ↑ Watson, Kathryn (Awst 15, 2022). "Rep. Carolyn Maloney says 'off the record', Biden is 'not running again'". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Awst 28, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
- ↑ Vakil, Caroline (June 23, 2022). "SC Democratic governor candidate says Biden shouldn't run in 2024 due to age". The Hill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 3, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
- ↑ "Harris could become the first female president after years of breaking racial and gender barriers". Associated Press (yn Saesneg). 21 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2024. Cyrchwyd 6 Awst 2024.
- ↑ Hagen, Lisa (16 Mawrth 2022). "Trump Appears to Rule Out Pence as Running Mate in Potential 2024 Run". US News & World Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2023. Cyrchwyd 16 Mehefin 2023.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwABC News-2024-2 - ↑ Mangan, Dan (4 Ebrill 2023). "NY grand jury indicts Trump in hush money payment case". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2023. Cyrchwyd 30 Mawrth 2023.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ "Takeaways from the final night of the Republican National Convention". CNN. 19 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 22, 2024. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2024.
