Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017

Oddi ar Wicipedia
Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017

← 2015 21 Rhagfyr 2017

Pob un o'r 135 sedd yn Senedd Catalwnia
68 seddi sydd angen i gael mwyafrif
Cofrestrwyd5,553,983 0.8%[1]
Y nifer a bleidleisiodd4,388,074 (79.0%)
4.1 pp =
  Plaid cyntaf Yr ail blaid Y drydedd blaid
 
Arweinydd Inés Arrimadas Carles Puigdemont Oriol Junqueras
Plaid Cs JuntsxCat ERC–CatSí
Arweinydd ers 3 Gorffennaf 2015 13 Tachwedd 2017 17 Medi 2011
Sedd yr arweinydd Barcelona Barcelona Barcelona
Etholiad ddiwethaf 25 sedd 31 sedd 26 sedd (JxSí)
Seddi a enillwyd 36 34 32
Newid yn y seddi 11 3 6
Poblogaidd boblogaith 1,107,837 947,829 935,267
Canran 17.9% 18% 17.5%

  Pedwaredd plaid Pumed plaid Chweched plaid
 
Arweinydd Miquel Iceta Xavier Domènech Carles Riera
Plaid PSC–PSOE CatComú–Podem CUP
Arweinydd ers 19 Gorffennaf 2014 8 Ebrill 2017 15 Tachwedd 2017
Sedd yr arweinydd Barcelona Barcelona Barcelona
Etholiad ddiwethaf 16 sedd 11 sedd 10 sedd
Seddi a enillwyd 17 8 4
Newid yn y seddi 1 3 6
Poblogaidd boblogaith 605,844 325,959 194,912
Canran 12.7% 8.9% 8.21%

  Seithfed plaid
 
Arweinydd Xavier García Albiol
Plaid PPC
Arweinydd ers 28 Gorffennaf 2015
Sedd yr arweinydd Barcelona
Etholiad ddiwethaf 11 sedd
Seddi a enillwyd 4
Newid yn y seddi 7
Poblogaidd boblogaith 185,319
Canran 8.5%

Canlyniad

y Llywyddiaeth cyn yr etholiad

Ataliwyd y swydd gan Lywodreth Sbaen
(Carles Puigdemont))

Etholwyd y Llywyddiaeth

heb ethol

Cynhaliwyd Etholiad Catalwnia, 2017 ar 21 Rhagfyr 2017, sef 12fed Llywodraeth y wlad, gan ddilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015. Enillodd y tair plaid dros-annibyniaeth fwyafrif y seddau: 70 allan o 135 sedd.

Yn wahanol i'r etholiadau o'i blaen, galwyd yr etholiad gan Lywodraeth Sbaen, wedi iddynt ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan bleidleisiodd 91.9% dros annibyniaeth. Galwyd yr etholiad gan Sbaen. Credai Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy Breyy byddai'r mwyafrif o'r etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond nid felly y bu, ac roedd y canlyniad yn embaras mawr iddo. Collodd plaid Rajoy 7 sedd, gan ddal eu gafael ar ddim ond tair sedd.

Ar ddiwrnod yr etholiad, a'r cyfnod a oedd yn arwain ato, roedd nifer o'r ymgeiswyr dros-annibyniaeth naill ai ar ffo yng Ngwlad Belg neu wedi eu carcharu gan Brif Lys Sbaen. Carcharwyd wyth o'r arweinyddion, gan gynnwys y cyn Is-Lywydd (ac arweinydd yr ERC), Oriol Junqueras heb fechniaeth; roedd Gwarant Ewropeaidd i Arestio nifer o arweinyddion a oedd wedi ffoi hefyd wedi'u cyhoeddi gan Sbaen, gyda Puigdemont a phedwar o'i Gabined yn ymgyrchu naill ai o garchar neu o wlad arall.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Wedi i Lywodraeth Catalwnia, ar 27 Hydref 2017, gyhoeddi eu bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, ymatebodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ei fod yn diddymu'r Llywodraeth ac yn galw Etholiad Cyffredinol - gyda'r bwriad o ethol rhagor o ASau a oedd o blaid cadw Catalwnia o fewn ffiniau presennol Sbaen. Cyhoeddodd Sbaen hefyd y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen a roddai'r hawl iddynt wneud 'unrhyw beth sydd ei angen' i uno Sbaen.

Pleidiau[golygu | golygu cod]

Trafododd pleidiau Catalwnia a ddylent gymryd rhan yn yr etholiad neu ei anwybyddu.[2][3][4]

Ar 5 Tachwedd 2017 etholodd Plaid Democratiaeth Ewropeaidd Catalwnia (PDeCAT) mai cyn-Lywydd y wlad, Carles Puigdemont, fyddai eu hymgeisydd, o Wlad Belg, ble roedd yn alltud - a hynny dan y faner 'Junts per Catalunya'.[5][6] Ymunodd PDeCAT gyda nifer o ASau Annibynnol i ffurfio plaid newydd o'r enw JuntsxCat (Gyda'n Gilydd Dros Catalwnia) gan alw ar amnest ar gyfer y "carcharorion gwleidyddol", sef prif swyddogion Llywodraeth Catalwnia a garcharwyd gan Sbaen.[7]

Penderfynodd Chwith Weriniaethol Catalwnia neu'r ERC dros beidio ag adnewyddu'r clymblaid Junts pel Sí.[8] Cyhoeddodd y Candidatura d'Unitat Popular, (CUP) fod yr etholiad yn "anghyfreithiol" ac na fydai'n ymladd am seddau.

Unodd pedair plaid o dan yr enw Gweriniaeth Chwith Catalwnia (neu ERC–CatSí).

Safbwynt ynglŷn ag annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Cytuno gydag
annibyniaeth
Plaid / Clymblaid Cytuno gyda Refferendwm Meddylfryd unochrog (Unilateralism) Cytuno gyda rheolaeth uniongyrchol o Fadrid Cyfeiriadaeth
YesY Ydy Junts per Catalunya (JuntsxCat) YesY Question? N [9]
Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) YesY N N [10]
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) YesY YesY N [11]
N Na Ciudadanos (Cs) N YesY [12]
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) N YesY [13]
Plaid y Bobl (PP) N YesY [14]
Niwtral Catalunya en Comú–Podem (CatComú–Podem) YesY N [15][16]
Pleidiau a chlymbleidiau Cyfuniad Ideoleg Ymgeisydd
Junts per Catalunya (JuntsxCat) Annibyniaeth Carles Puigdemont
Ciudadanos (Cs) Rhyddfrydiaeth Inés Arrimadas
Gweriniaeth Chwith Catalwnia (ERC–CatSí) Asgell chwith annibynnol Oriol Junqueras
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) Cymdeithas Ddemocrataidd Miquel Iceta
Catalunya en Comú (CatComú–Podem) Eco-sosialaeth Xavier Domènech
Partit Popular de Catalunya (PP) Rhyddfrydiaeth-geidwadol Xavier García Albiol
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) Gwrth-gyfalafiaeth/Catalwnia Annibynnol Carles Riera

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "En las elecciones al Parlamento de Cataluña podrán votar 5.553.983 electores" (PDF).
  2. Gisbert, Josep (30 Hydref 2017). "El independentismo asume que debe presentarse a las elecciones". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Noger, Miquel (30 Hydref 2017). "Los partidos secesionistas se inclinan por ir a las elecciones". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Tomàs, Neus (30 Hydref 2017). "Los partidos independentistas sopesan ya cómo presentarse al 21-D". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Sixto Baqueiro, Camilo (5 Tachwedd 2017). "Carles Puigdemont será el candidato del PDeCAT en las elecciones del 21-D". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "Puigdemont: "Estoy dispuesto a ser candidato; incluso desde el extranjero"". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. 3 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  7. Puente, Arturo (3 Tachwedd 2017). "El PDeCAT apuesta por una lista conjunta contra el 155 y por la amnistía". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Barrena, Xabi (4 Tachwedd 2017). "ERC rechaza una candidatura conjunta solo con el PDECat". El Periódico de Catalunya (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. Romero, Nazaret. "Puigdemont to head 'Together for Catalonia'". www.catalannews.com.
  10. Medina Ortega, Manuel (2017). "The Political Rights of EU Citizens and the Right of Secession". In Closa, Carlos (gol.). Secession from a Member State and Withdrawal from the European Union: Troubled Membership. Cambridge University Press. t. 142. ISBN 1107172195. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.
  11. "Crida Constituent pretén "fer engrunes el sistema"".
  12. "Albert Rivera, a los que le llaman facha: "En Cataluña, lo más progresista es facha"".
  13. Burgen, Stephen; Jones, Sam (21 December 2017). "All you need to know about the Catalonia election" – drwy www.theguardian.com.
  14. "El PP se presenta como el único partido 'unionista' de Cataluña frente a la autodeterminación anunciada por Mas".
  15. "Programa electoral – Catalunya en Comú – Podemos". catalunyaencomupodem.cat.
  16. "Catalunya en Comú: la maldición de ser decisivo". Cadena SER. 4 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]