Neidio i'r cynnwys

Estron (drama)

Oddi ar Wicipedia
Estron
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2016 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan fuddugol Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 yw Estron o waith Hefin Robinson. Disgrifiwyd y gwaith fel "drama am ddrama" gan y beirniaid Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf.[1] "Chwelir y ffiniau rhwng Ilwyfan a set, rhwng actor a chymeriad, rhwng y sgript ar y Ilwyfan a'r sgript sy'n cael ei hysgrifennu o'n blaenau ar y cyfrifiadur," yn ôl y beirniaid.[1] "Defnyddir Skype fel y mae Beckett yn defnyddio'r tâp yn Krapp's Last Tape", ychwanegant.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Alun, gwrywaidd, 27
  • Han, benywaidd, 32
  • Leia, estron[2]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd Estron am y tro cyntaf yn y Cwt Drama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr.[3] Cyfarwyddydd Janet Aethwy; cast:

  • Alun - Gareth Ellis
  • Han - Ceri Elen
  • Leia - Elin Llwyd

Cafodd y beirniad theatr Lowri Haf Cooke ei phlesio'n fawr wedi ymweld â'r Cwt Drama yn 2017: "Ro’n i’n ddagrau i gyd, â gwên lydan ar fy ngwep, pan saethais i nhraed ar ei diwedd," meddai, "Dyma ddrama bwerus, heb daith ar y gweill, sy’n rhaid ei phrofi yn y ’steddfod eleni."[4]

Ail-lwyfannwyd y ddrama yn Ebrill a Mai 2018 gan fynd â hi ar daith drwy Gymru.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2016.
  2. "Dramau Cymru". dramau.cymru. Cyrchwyd 2026-06-23.
  3. 1 2 Rhaglen Y Tad. Theatr Genedlaethol Cymru. 2018.
  4. Cooke, Lowri (2017-08-10). "Estron, Hefin Robinson, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017". Art Scene in Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-23.