Mursen lygatgoch fach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Erythromma viridulum)
Erythromma viridulum
Erythromma viridulum (male)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Erythromma
Rhywogaeth: E. viridulum
Enw deuenwol
Erythromma viridulum
(Charpentier, 1840)

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Fursen lygatgoch fach (llu: mursennod llygatgoch bach; Lladin: Erythromma viridulum; Saesneg: Small Red-eyed Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Erythromma. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata.

Mae'r Fursen lygatgoch fach i'w chael drwy ogledd-orllewin Ewrop a chynyddodd eu niferoedd yn rhan ola'r 20fed ganrif. Yn 1999 cofnodwyd ei bod yng ngwledydd Prydain (yn Essex) am y tro cyntaf ac ymsefydlodd yno ers hynny.

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân. Mae'n hoff iawn o dorheulo ar lysdyfiant sy'n arnofio, er enghraifft Myriophyllum.

Llygaid

Mae adenydd yr oedolyn yn 29 milimetr (1.1 modf) ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai ac Awst. Mae E. viridulum yn fursen tywyll, bron yn ddu, gyda marciau symudliw glas arni. Mae'r gwryw yn debyg i fursennod cynffon las y genws Ischnura, eithr mae ganddo lygaid cyfansawdd enfawr, ymhell o'i gilydd, sy'n goch tywyll eu lliw. Yn aml, caiff ei gamgymeryd am y Fursen lygatgoch fawr (Lladin: Erythromma najas). Mae gan y gwryw hefyd gefn (rhan uchaf) o liw efydd tywyll ac ochrau glas. Mae ochrau thoracs y fenyw yn felyn, gwyrdd neu'n las.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]